Maniffesto ar gyfer addysg cover image

NEU Cymru maniffesto ar gyfer addysg

Mae'n rhaid i lywodraeth nesaf y DU weithio gyda Llywodraeth Cymru i roi'r addysg y maent yn ei haeddu i'n plant. 

Published:
Maniffesto

Sut i ddefnyddio'r maniffesto hwn:

  1. Rhannwch ef a’i drafod gyda’ch cyd-addysgwyr.
  2. Rhannwch ef gyda rhieni yn eich meithrinfa, ysgol, neu gymuned coleg.
  3. Rhannwch ef gyda’ch ymgeiswyr Seneddol a gofynnwch am eu cefnogaeth.

Maniffesto ar gyfer addysg

  • Ariannu Llywodraeth Cymru i wrthdroi toriadau i ysgolion, colegau a meithrinfeydd a chynyddu gwariant addysg i’r hyn sy’n cyfateb i bump y cant o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC).
  • Rhoi terfyn ar dlodi plant, gan ddechrau gyda chael gwared ar y cap ar fudd-daliadau dau blentyn ac ariannu Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu cinio ysgol maethlon, rhad ac am ddim i bob disgybl.
  • Sicrhau bod y newidiadau i’r cwricwlwm yn ddeniadol ac yn gynhwysol, a bod gan athrawon fynediad at ddysgu proffesiynol i wreiddio gwrth-hiliaeth a gwarantu mynediad i bob disgybl i ystod eang o bynciau, gan gynnwys y celfyddydau ac addysg gorfforol.
  • Rhoi diwedd ar asesiadau mewn ysgolion cynradd i sicrhau bod y diwylliant asesu 14-19 yn gynhwysol ac yn cefnogi plant heb gynyddu baich gwaith.
  • Ariannu Llywodraeth Cymru i sicrhau y gallant ddarparu cymorth anghenion dysgu ychwanegol priodol yn gyflym a lleihau biwrocratiaeth ddiangen.
  • Recriwtio digon o athrawon a staff ysgol i lenwi swyddi gwag cynyddol, drwy sicrhau bod ganddynt ddigon o arian i wneud cyflog yn gystadleuol eto.
  • Ariannu haen ganol sy’n cefnogi ysgolion ac yn cynorthwyo cydweithio.
  • Cadw athrawon, arweinwyr, a staff ysgol yn y proffesiwn drwy ofyn i ni sut i fynd i’r afael â baich gwaith anystywallt.
  • Ariannu Llywodraeth Cymru i gynyddu’r amser digyswllt ar gyfer datblygiad proffesiynol, cydweithredu a chynllunio, yn enwedig ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa.
  • Rheoleiddio llymach o gwmnïau cyfryngau cymdeithasol er mwyn amddiffyn plant rhag niwed ar-lein a blaenoriaethu eu lles.

Os ydych yn gwerthfawrogi addysg, pleidleisiwch dro addysg

Back to top