Grymuso, addysgu ac ysbrydoli: sut i helpu myfyrwyr i newid pethau
Gwybod eich hawliau, mae gennych hawl i fod yn ddiogel yn y gwaith ac i weithio heb unrhyw sylwadau rhywiaethol, aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth.
Canllawiau cychwyn, rhan o becyn cymorth yr NEU ar gyfer atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol mewn ysgolion.
Nod pecyn cymorth yr ymgyrch yw helpu aelodau'r NEU i gymryd y camau sydd eu hangen i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol
Cafodd y pecyn cymorth hwn ei greu er mwyn ymateb i gynnig a gyflwynwyd gan aelodau’r NEU yn y gynhadledd flynyddol. Dechreuodd y gwaith pan ymchwiliwyd i aflonyddu rhywiol mewn ysgolion ar gyfer ein hadroddiad ymchwil, It’s Just Everywhere, yn 2017.
Gwelson ni fod aflonyddu rhywiol yn gyffredin tu hwnt mewn ysgolion. Yn ôl y gwaith ymchwil, roedd dros draean (37 y cant) y myfyrwyr benywaidd mewn ysgolion cymysg wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol yn bersonol yn yr ysgol, ac roedd bron i chwarter (24 y cant) o fyfyrwyr benywaidd mewn ysgolion cymysg wedi profi cyffwrdd corfforol digroeso o natur rywiol yn yr ysgol.
Mae gennyn ni ddau boster y gallwch chi’u lawrlwytho am y gwaith ymchwil hwn [ADD LINK].
Ers cyhoeddi ein hadroddiad, mae’r sgwrs am aflonyddu rhywiol wedi datblygu’n arw. Mae #MeToo, mudiad cymdeithasol byd-eang yn erbyn ymosodiadau rhywiol, aflonyddu rhywiol a diwylliant treisio, a hwnnw’n fudiad sy’n tyfu, wedi tynnu sylw cyhoeddus at y rheini sy’n cyflawni ymosodiadau rhywiol – yn enwedig y rheini sydd mewn grym. Ei neges yw:
“Dim mwy”.
Mae rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched. Mae trais a gwahaniaethu yn erbyn menywod a merched hefyd wedi dod yn bwnc amlwg, gyda Laura Bates yn tynnu sylw at ‘rywiaeth bob dydd’; gorymdeithiau’n cael eu cynnal i brotestio yn erbyn ymddygiad rhywiaethol gwleidyddion; marwolaethau Sarah Everard, Sabina Nessa, Nicole Smallman a Bibaa Henry; ac ymgyrchoedd cyhoeddus yn tynnu sylw at aflonyddu ar y stryd. Mae Black Lives Matter ac achos Plentyn Q wedi amlygu natur hiliol a chyffredin rhywiaeth ym mywydau menywod a merched Du, ac rydyn ni’n gwybod bod myfyrwyr a staff LHDT+ ac anabl yn profi aflonyddu rhywiol mewn ffordd wahanol.
Mae digon o dystiolaeth ar gael yn y Deyrnas Unedig bellach i ddangos bod aflonyddu rhywiol yn gyffredin ym mhob ysgol. Does dim angen i unrhyw aelod o staff mewn ysgol brofi bod angen newid pethau. Mae neges Llywodraeth Cymru ac Estyn yn glir: mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gyffredin iawn ym mywydau disgyblion ifanc a dylai ysgolion fabwysiadu dull gweithredu ataliol a rhagweithiol ysgol gyfan i fynd i’r afael ag ef (Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon - Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru – Estyn). Canfu TUC Cymru fod 46 y cant o weithwyr wedi dweud eu bod wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn y gwaith. (Mae bron i hanner gweithwyr Cymru wedi profi aflonyddu rhywiol, yn ôl arolwg newydd | Newyddion ITV Cymru)
Mae’r undeb wedi ymrwymo i roi cyngor i’n haelodau er mwyn eu helpu i ddylanwadu ar y polisïau yn eu hysgolion neu golegau, a hynny wrth roi sylw i faterion sy’n effeithio ar aelodau ond hefyd wrth ddefnyddio addysg i ymateb i’r materion cymdeithasol sy’n effeithio ar bobl ifanc, ar eu gallu i gael addysg, ac ar eu profiad o hynny. Mae’r undeb wedi canolbwyntio ar aflonyddu rhywiol gan mai dyma un o ganlyniadau anghydraddoldeb rhywedd. Gall herio hyn arwain at gynnal sgyrsiau cadarnhaol mewn addysg am rywiaeth a thegwch rhyweddol.
Fel man cychwyn, dylech chi asesu ble mae’ch ysgol chi arni yn y modd y mae’n ymateb i aflonyddu rhywiol ac yn ei atal.
Ceir dealltwriaeth dda erbyn hyn bod rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn gyffredin iawn mewn ysgolion. Er mwyn i newid ystyrlon ddigwydd, mae tystiolaeth o adroddiadau ac astudiaethau’n dangos bod angen dull ysgol gyfan o fynd ati i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol.
Mae angen i’r dull hwn fynd i’r afael ag ymddygiadau unigolion ac mae angen iddo newid diwylliant yr ysgol. Mae hynny’n arwain at y cwestiwn: ‘Beth yn union yw dull ysgol gyfan o atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol, a sut rydyn ni’n rhoi hwnnw ar waith?’
Mae’r ddogfen hon yn dangos sut i gynllunio dull o weithio drwy’r ysgol gyfan, ac mae’n ei rannu’n bump elfen allweddol:
Oddi mewn i’r rhain, dylid ystyried pum llinyn hollbwysig:
Mae’n cymryd amser i newid diwylliant. Rhywbeth a fydd yn digwydd yn raddol, yn hytrach na dros nos, yw hyn. Mae angen blynyddoedd i bethau newid, a mwy o lawer na thymor neu flwyddyn ysgol. Mae pecyn cymorth yr NEU yn eich galluogi i ddewis y camau cyntaf mwyaf defnyddiol i’w cymryd yn eich ysgol chi. Mae hefyd yn eich galluogi i gynllunio at y tymor hwy.
Bydd pob ysgol yn dechrau o fan cychwyn gwahanol, ac rydyn ni’n eich cynghori i drafod a chnoi cil fel grŵp o staff i benderfynu ar y camau cyntaf neu’r camau nesaf, yn dibynnu ar eich cyd-destun a natur eich cymuned chi. Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i greu er mwyn i chi a’ch cydweithwyr ddewis beth sy’n ddefnyddiol ac addasu’r cynnwys, cyn dewis a dethol yr elfennau a’r dulliau gweithio rydych chi am eu defnyddio.
Gall fod sawl ffurf i ddull ysgol gyfan o weithio.
Mae angen i’r ymrwymiad fod yn glir ac yn weladwy. Mae angen gweld y newid yn digwydd ar y brig. Bydd arweinwyr a llywodraethwyr yr ysgol yn ymrwymo i gyflwyno dull ysgol gyfan o atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Byddan nhw’n arwain drwy esiampl, ac yn dangos pwysigrwydd y mater hwn, gan gysylltu holl rannau’r dull ysgol gyfan o weithio â’i gilydd a rhoi cyfleoedd i’r staff gyflwyno’r newid. Dylai arweinwyr hefyd ysgwyddo cyfrifoldeb dros seilwaith eu hysgolion. Dylai hyn gynnwys y polisi diogelu, y polisi ymddygiad, a’r polisi ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau, ynghyd â sicrhau dull cynhwysol o ymdrin â’r mater hwn. Nid yw cydnabod bod rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn digwydd yn eich ysgol yn adlewyrchiad o’r ysgol. Yn hytrach, mae’n adlewyrchiad o gymdeithas gyfan. Mae Ofsted yn ei gwneud hi’n ofynnol i ysgolion adrodd am sut maen nhw’n mynd i’r afael â rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Mae’r pecyn cymorth hwn yn helpu arweinwyr i wneud hyn.
Y staff yw’r rhai sy’n creu diwylliant yr ysgol a rhaid eu cefnogi nhw, nid yn unig drwy eu hannog, ond hefyd drwy roi’r amser, y sgiliau a’r gallu iddyn nhw gnoi cil am ymddygiadau, addysgu a’r cwricwlwm. Mae angen polisïau hefyd sy’n rhoi arweiniad i’r staff ynghylch sut y dylen nhw drin ei gilydd, fel polisïau ar gyfer ymddygiad staff a sut i roi gwybod am aflonyddu. Bydd y staff yn rhoi patrwm i’r myfyrwyr ei efelychu. Mae angen iddyn nhw gael eu galluogi a’u cefnogi i greu diwylliannau cadarnhaol drwy gael hyfforddiant, ac mae angen iddyn nhw gael amser i gnoi cil am bethau.
Dylai holl elfennau’r cwricwlwm, o wyddoniaeth a hanes i gelf, drama ac addysg gorfforol, ganfod stereoteipiau rhyweddol niweidiol, rhoi sylw i lwyddiannau a chyfraniadau menywod, a hybu perthnasau iach. Dylai addysg cyd- berthynas a rhyw gael ei chynllunio drwy ymgynghori a’r myfyrwyr a thrwy roi sylw’n benodol i gydsyniad, perthnasau sy’n dangos parch, stereoteipiau rhyweddol, trais yn erbyn menywod a merched, ac ystyr cydsyniad ac ymosodiadau rhywiol.
Mae profiadau’r myfyrwyr eu hunain yn rhan greiddiol o ddull yr ysgol o atal ac ymateb i rywiaeth ac aflonyddu rhywiol, a dylid defnyddio syniadau’r myfyrwyr er mwyn newid pethau. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i drefnu pethau mewn grwpiau ffeministaidd/ cydraddoldeb. Gall myfyrwyr rannu’u barn mewn gofodau dysgu diogel, a byddan nhw’n cael eu hannog i wella’u dealltwriaeth ac i newid eu hymddygiadau gan eu bod nhw’n sylweddoli fod stereoteipiau rhyweddol yn eu niweidio nhw, eu ffrindiau a’u cyfoedion.
Dylai teuluoedd a gofalwyr gael negeseuon clir gan yr ysgol bod rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn niweidiol ac y bydd hyn yn cael ei herio. Gall yr ysgol esbonio pam fod atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn bwysig ac o fudd i’r holl fyfyrwyr a’u llwyddiant yn yr ysgol. Dylai rhieni a gofalwyr gael gwybodaeth a negeseuon yn eu hatgoffa â phwy y dylen nhw gysylltu os ydyn nhw’n pryderu am rywbeth sydd wedi digwydd i’w plentyn. Gan fod rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol wedi’u gwreiddio mewn cymdeithas, bydd angen addysgu a dangos i gymunedau ein hysgolion sut gallan nhw gefnogi’u plant i fyw heb rywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn eu cartrefi a’u hysgolion.
Ym mhob elfen, dylai fod pum llinyn hollbwysig:
Boed hynny’n ymwneud â pholisi gwisg ysgol, rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol, neu’r gallu i gael cyngor gyrfaoedd nad yw’n seiliedig ar stereoteipiau, mae angen i seilwaith yr ysgol fod yn rhan o’r newid i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Dyna beth rydyn ni’n ei olygu wrth sôn am gerrig sylfaen.
Wrth ddilyn dull ysgol gyfan o atal a mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, rhaid i hynny fod yng nghyd-destun ehangach y seilwaith ar gyfer diogelu, ymddygiad, polisïau’r staff, a mwy. Mae gennyn ni restr wirio ar gyfer y llinyn Cerrig sylfaen ar ein gwefan. Os ewch chi i wefan yr NEU, gallwch chi edrych yn fanylach ar hyn, gan gynnwys edrych ar bolisïau ymddygiad, polisïau gwisg ysgol, ac astudiaethau achos.
Mae rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn eu hamlygu’u hunain mewn gwahanol ffyrdd i wahanol grwpiau o staff a phobl ifanc, fel menywod Du, menywod o wahanol oedran, a staff lesbiaidd neu draws. Bydd rhai grwpiau o staff yn wynebu rhwystrau a phrofiadau negyddol niferus, a gellir disgrifio hyn fel “gwahaniaethu lluosog”. Mae hyn yn golygu ei bod yn fwy anodd i rai aelodau o staff roi gwybod am ddigwyddiadau neu chwilio am gymorth, neu’n fwy anodd iddyn nhw fod yn hyderus y bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth.
I’w gwneud hi’n haws i bobl roi gwybod am ddigwyddiadau, mae’r dystiolaeth yn dangos y bydd yr holl staff yn cael budd drwy fynd ati’n rheolaidd ac yn gadarnhaol i annog pobl i roi gwybod am ddigwyddiadau, a dylid egluro bod hynny’n arwydd o ddiwylliant iach yn y gweithle. Cofiwch ystyried demograffeg ehangach eich ysgol a’ch cymuned wrth ddatblygu eich polisïau i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Serch hynny, dylai ysgolion deimlo’n hyderus yn cyflwyno ac
yn modelu cyfres o werthoedd a allai fod yn wahanol i brofiad y myfyrwyr y tu allan i’r ysgol (“gwerthoedd ein hysgol ni”). Mae’n bwysig hefyd mynd ati i herio stereoteipiau negyddol neu gul y bydd myfyrwyr yn dod ar eu traws ar-lein.
Er enghraifft:
Mae gennyn ni fwy o astudiaethau achos am groestoriadedd a chynhwysiant ar ein gwefan.
Mae’r iaith y byddwn ni’n ei defnyddio a sut byddwn ni’n ymddwyn at ein gilydd fel gweithwyr proffesiynol, a sut bydd myfyrwyr yn ymddwyn at ei gilydd, yn rhan greiddiol o ddiwylliant ysgol.
“Roedden ni mewn cyflwyniad i’r staff ac roedd y Pennaeth yn siarad. Pan orffennodd, dywedodd, ‘Nesaf, mae’n bryd i’r merched gael tro’, gan gyfeirio at gyflwyniad gan nifer o aelodau ifanc o’r staff benywaidd.” – Aelod, Gorllewin Canolbarth, Lloegr
Mae’r iaith y byddwn ni’n ei defnyddio wrth ymwneud â phobl o ddydd i ddydd, ein polisïau, a’r ffordd y bydd yr ysgol yn cyfathrebu yn hollbwysig er mwyn dangos ymrwymiad i atal hiliaeth ac aflonyddu rhywiol. Dros amser, byddai’n syniad da adolygu adnoddau eich cwricwlwm er mwyn canfod cynnwys sy’n hyrwyddo rhywiaeth. (Gweler yr adran am y cwricwlwm ar ein gwefan.)
Wrth fwrw golwg ar yr iaith a ddefnyddir, dylid edrych ar ddogfennau ffurfiol, contractau, polisïau a llythyrau. Mae’n hollbwysig bod y staff yn rhoi esiampl i’r myfyrwyr ac yn dangos ymddygiad sy’n ceisio atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol, gan hybu cydraddoldeb a pharch rhwng dynion a menywod.
Mae gennyn ni restr wirio ar gyfer y llinyn ‘Cysylltiadau rhwng pobl’ ar ein gwefan.
Sut mae creu amser a gofodau diogel i staff a myfyrwyr gnoi cil am eu credoau a’u hymddygiadau eu hunain?
Mae’r llinyn sy’n ymwneud â chnoi cil yn golygu sicrhau bod gan bawb amser a gofod i feddwl am sut gallan nhw gyfrannu at gymuned sy’n hybu gwerthoedd cadarnhaol. Boed yn aelod o staff neu’n unigolyn ifanc, byddwn ni i gyd yn dod ar draws stereoteipiau am rywedd a diwylliant sy’n effeithio ar sut byddwn ni’n gweithredu ac ar y pethau y byddwn ni’n eu gwneud. Yn rhan o’r ddeialog fewnol hon, bydd rhai disgwyliadau a normau cymdeithasol rhyweddol am sut bydd rhyweddau gwahanol yn ymddwyn a sut byddwn ni’n ymddwyn fel cyrff rhyweddol.
Yn aml, gall meddwl am anghydraddoldeb rhywedd ac atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol arwain at gnoi cil pwysig am yr hyn sy’n dylanwadu arnon ni ac o ble cawson ni ein syniadau am ddynion, menywod a rhywedd. Bydd gwahanol athrawon wedi cael cyfleoedd gwahanol i ddatblygu’n broffesiynol ym maes rhywedd ac addysg. Mae angen i ddull ysgol gyfan gynnwys gofod i gnoi cil yn broffesiynol a gofod i gyd-gynllunio, er mwyn i ni allu meddwl am ein cymhellion personol a’n profiadau personol ac ymrwymo i wrando ar gydweithwyr a dysgu ganddyn nhw.
A all staff, teuluoedd a myfyrwyr weld neges glir drwy’r holl ysgol sy’n datgan nad yw aflonyddu rhywiol yn dderbyniol? Mae’r llinyn Cynrychioli yn ymwneud â sut mae’r ysgol yn hyrwyddo ac yn arddangos ei hethos, a beth mae hi’n ei ddweud, yn ei ddathlu ac yn rhoi llwyfan iddo.
Waeth pa mor dda yw polisïau’r ysgol neu gynlluniau gwersi, os nad yw’r staff a’r myfyrwyr yn ymwybodol o’r rheini, neu’n cael negeseuon amdanyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael yr effaith iawn. Mae hyn yn golygu bod popeth y bydd pawb yn yr ysgol yn ei weld bob dydd yn rhoi negeseuon i bobl am werthoedd a chredoau’r ysgol – o ddatganiadau clir gan yr ysgol bod aflonyddu rhywiol yn annerbyniol i bobl amrywiol i’w hefelychu mewn gwyddoniaeth. Gellir adlewyrchu’r newidiadau rydych chi’n eu gwneud yn y mannau hynny.
Bydd ysgolion ar eu hennill o ddangos yn glir mai anghydraddoldeb rhywedd sydd wrth wraidd aflonyddu rhywiol. Mae angen neges glir am atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol, gan ddatgan bod y gwaith hwnnw’n gyfrifoldeb ar bawb yn yr ysgol.
Mae gennyn ni restr wirio ar gyfer y llinyn Cynrychioli ein gwefan.
Ar ôl darllen y ddogfen hon, efallai y bydd y syniad o fynd i’r afael â’r broblem hon ar eich pen eich hun, a phendroni ble i ddechrau arni, yn eich llethu. Efallai y bydd gennych chi lond gwlad o syniadau, neu ddim syniad ble i gychwyn arni. Y naill ffordd neu’r llall, mae’n hollbwysig sgwrsio â’ch cydweithwyr ac ennyn eu diddordeb i gymryd y camau cyntaf gyda chi.
Gan ddilyn diagram y dull ysgol gyfan ar dudalen 2, dechreuwch sgwrs agored i drafod pob elfen a gwnewch nodyn o’r modd mae’ch ysgol yn atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol ar hyn o bryd, a sut gellid gwella pethau.
Peidiwch â phoeni yn y cam cynnar hwn am gadw’ch amcanion yn fach. Byddwch yn uchelgeisiol; pe bai gennych chi ffon hud, beth fyddai’ch nod hirdymor ar gyfer pob elfen?
Gan edrych ar eich nodau hirdymor o’r dasg uchod, trafodwch pa rai y byddech chi’n hoffi edrych arnyn nhw’n gyntaf. Anogwch eich cydweithwyr i ysgrifennu cynllun gyda’i gilydd, a rhannwch y nod hirdymor hwn yn gamau bach, ymarferol. Gallwch chi weithio gyda’ch gilydd a gofyn: ‘Ble rydyn ni eisiau cychwyn?’ a ‘Beth fydden ni’n hoffi’i gyflawni?’
Darllenwch weledigaeth ac ethos eich ysgol a meddwl sut bydd y gwaith hwn yn cysylltu â’r rheini.
A yw’ch iaith yn bwydo stereoteipiau rhyweddol?
‘Ga’ i ddau fachgen cryf i symud y bwrdd yma?’
A yw’r cwricwlwm rydych chi’n ei addysgu yn cynnwys menywod sy’n batrwm i’w hefelychu?
A ydych chi a’ch cydweithwyr yn teimlo’n ddigon hyderus i roi gwybod am achosion o rywiaeth ac aflonyddu rhywiol?
A fydd pobl yn gweld bai ar ferched am wisgo sgertiau byr mewn ystafell ddosbarth athro gwrywaidd?
A yw’r seilwaith wedi’i greu?
Soniodd athrawes gwyddorau cymdeithasol o Newcastle wrthyn ni am sut aeth hi ati i gasglu tystiolaeth. Yn ystod ei blwyddyn fel athrawes newydd gymhwyso, cysylltodd â’i huwch dîm arwain i drafod sut gallai’r ysgol fynd i’r afael ag ymddygiad rhywiaethol yn yr ysgol. Gwelodd nad oedd polisïau wedi’u cyflwyno, a chytunodd yr arweinwyr i weithio ar y mater. I gychwyn arni, helpodd hi i drefnu grwpiau ffocws i fyfyrwyr. O’r sesiynau hyn, dysgodd yr ysgol fod y merched yn teimlo’n anghyfforddus yn eu gwisgoedd ysgol ac yn gorfod dygymod â ‘thynnu coes’ rhywiaethol, a bod y myfyrwyr yn teimlo bod angen addysgu’r athrawon am rywiaeth a sut i ddelio â hynny.
Clywson nhw hefyd gan fechgyn a oedd yn dweud nad oedden nhw’n gwybod pryd, na sut, i herio ymddygiad rhywiaethol. Nid yw rhai’n gwybod ble mae’r ‘llinell’ na sut i ymyrryd yn ddiogel mewn digwyddiad. Roedd bechgyn a merched yn dweud nad oedd addysg bersonol a chymdeithasol ac addysg rhyw a chydberthynas yn rhoi beth oedd ei angen arnyn nhw, a’i bod wedi dyddio ac yn anaddas i’w diben.
Roedd yr adborth hwn yn wybodaeth ddefnyddiol i ddangos ble roedd angen dulliau gweithio gwahanol.
Wrth gynnal trafodaethau a hel syniadau, dylai’r trafodaethau hyn gynnwys yr holl staff, ac mae angen i ni barhau i atgyfnerthu’r neges bod herio rhywiaeth yn llesol i bawb, ac nad ‘mater i fenywod’ yn unig yw hwn. Mae angen i ddynion fod yn batrymau i’w hefelychu er mwyn cefnogi ac arwain eu myfyrwyr drwy ddangos esiampl.
Ceir cysylltiadau sy’n croestorri hefyd rhwng hiliaeth a rhywiaeth, a rhwng rhywiaeth a homoffobia. Wrth ystyried yr ystadegau am rywiaeth ac aflonyddu rhywiol, mae’n werth cadw mewn cof na fydd yr holl staff neu’r holl fyfyrwyr yn gallu trafod eu profiadau neu’u syniadau mor rhwydd â’i gilydd.
Dylai’r atebion i fynd i’r afael â rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol gydnabod bod gwahanol fyfyrwyr a staff yn profi rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol mewn ffyrdd gwahanol. (mae modd darllen mwy amgynhwysiant a chroestoriadedd ar ein gwefan)
Anogwch eich cydweithwyr i ysgrifennu cynllun gyda’i gilydd. Beth fyddech chi’n hoffi’i gyflawni? Meddyliwch am sut a pham? Pa gymorth fydd ei angen arnoch chi, tybed?
Cofiwch ofalu bod y cynllun wastad yn weladwy, a’i ailwerthuso mewn cyfarfodydd rheolaidd. Trafodwch y cynllun yng nghyfarfodydd y staff neu ystyriwch greu pwyllgor cydraddoldeb rhywedd. Bydd angen i bob cynllun gynnwys yr ysgol gyfan er mwyn cyflwyno newid a fydd yn para am gyfnod hir.
Gan weithio gyda’ch gilydd i ysgrifennu eich cynllun, meddyliwch am sut y byddwch chi’n sicrhau bod y nodau’n rhai CAMPUS:
Efallai y byddwch chi am gychwyn drwy ddewis y tasgau sy’n rhwydd i’w cyflawni. Bydd pob tasg y byddwch chi’n ei chyflawni yn garreg sylfaen i gyrraedd eich nod hirdymor. Gofalwch fod y tasgau’n cael eu rhannu ymhlith grŵp y staff, er mwyn i bawb fod yn rhan o bethau.
Weithiau byddwch chi’n mynd i gors, ac mae hynny’n iawn. Aseswch y cynlluniau eto a meddyliwch a oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud i’r cynllun weithio (Gweler yr astudiaeth achos: Sut i arwain chwyldro mewn cydraddoldeb rhywedd yn eich ysgol chi).
Un nod y byddai modd ei gyflawni fyddai gofyn i’ch pennaeth wneud addewid cyhoeddus i gyflwyno dull ysgol gyfan o atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Mae’r NEU wedi creu poster addewid y gall penaethiaid ei lofnodi, a byddai modd rhoi llun o hwn gyda chynrychiolydd eu hysgol ar y cyfryngau cymdeithasol – #DynaDdigon @neuwomen @NEUnion .
Drwy wneud datganiad gweledol, mae modd dod â chymuned ehangach yr ysgol yn rhan o bethau, gan weld y camau cyntaf cadarnhaol y mae’r ysgol yn eu cymryd i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol.
Cofiwch nad oes yn rhaid i’ch ysgol fod â thystiolaeth bod rhywiaeth neu aflonyddu rhywiol yn digwydd yno. Mae argymhellion Estyn a Llywodraeth Cymru’n datgan y dylai ysgolion gydnabod bod aflonyddu rhywiol yn digwydd a chymryd camau i’w atal.
Mae’n hynod o ddefnyddiol cael syniad o’ch man cychwyn a pha gynnydd sydd wedi’i wneud. Mae modd defnyddio arolygon a grwpiau ffocws i staff a myfyrwyr i fesur y cynnydd sy’n cael ei wneud.
Gall gymryd amser i wreiddio’r materion hyn ym mhrosesau datblygu a gwella’r ysgol. Serch hynny, mae pob cam i’r cyfeiriad iawn, a dilyn dull ysgol gyfan o atal rhywiaeth ac aflonyddu, yn golygu y gall addysgu a dysgu yn yr ysgol ddod yn beiriant arferion da.
Nid yw dull ysgol gyfan i fod i roi ‘ateb dros nos’; mae angen amser i newid diwylliant. Byddwch yn falch o unrhyw gamau y byddwch chi’n eu cymryd tuag at atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Rydych chi’n newid bywydau eich cydweithwyr a’ch myfyrwyr, ac yn rhan o fudiad byd-eang, y funud hon, mewn ysgolion o amgylch y byd sy’n dweud bod angen rhoi diwedd ar rywiaeth ac aflonyddu rhywiol.
Bydd hyd yn oed y cynlluniau gorau’n methu o dro i dro. Os dewch chi ar draws rhwystrau, peidiwch â gwangalonni. Mae’n bwysig cadw golwg ar y cynlluniau a gwerthuso’r cynnydd sy’n cael ei wneud. A oes angen rhagor o amser arnoch chi i gyflwyno’r cynlluniau? A yw’r ysgol yn gwrthod cymryd y materion hyn o ddifrif?
A oes angen cymorth arnoch chi i ganfod atebion i’r problemau hyn?
Os byddwch chi’n wynebu rhwystrau, gall rhannu’r rhain gyda’ch cangen/ardal fod yn gyfle i ddatrys y broblem gyda’ch gilydd.
Efallai y byddwch chi’n awyddus i drefnu hyfforddiant am elfennau o’r pecyn cymorth yn eich ysgol, ond nad ydych chi’n gwybod ble i gychwyn. Gall eich cangen/ardal drefnu hyfforddiant, naill ai ar y cyd â’ch ysgol, neu ledled eich ardal.
Dewch i adnabod cynrychiolydd eich ysgol chi. Os nad oes gennych chi gynrychiolydd, gofynnwch i’ch cangen/ardal beth mae dod yn gynrychiolydd yn ei olygu. Mae modd rhannu gwaith y cynrychiolydd os oes gan bobl eraill ddiddordeb mewn cyfrannu. Gofynnwch i’ch cangen a oes lle gwag ar gyfer swyddog cydraddoldeb neu swyddog menywod.
“Fe wnes i fy hyfforddiant i gynrychiolwyr yr NEU eleni ac fe ofynnwyd i ni i gyd, ‘Beth yw’r prif broblemau yn eich ysgol chi?’ ‘Rhywiaeth’ oedd fy ateb i, ond pan ofynnodd yr hwylusydd, ‘Oes gan rywun arall brofiad o hyn?’, ni ddywedodd neb air. Eto i gyd, wrth sgwrsio â nhw, roedden nhw’n delio â hawliau mamolaeth gwael, diffyg polisi ar gyfer y menopos ac ati.
Rhywiaeth oedd wedi’i gwreiddio’n ddwfn oedd hyn, ond doedd ein cydweithwyr ddim yn sylweddoli hynny.”
Aelod, Gogledd-ddwyrain Lloegr
Rhowch wybod i neuwomen@neu.org.uk am straeon cadarnhaol, er mwyn i ni allu rannu’ch gwaith da chi. Bydd clywed am straeon ar lawr gwlad yn ein helpu i ddatblygu’r pecyn cymorth hwn a hyfforddiant yn y dyfodol.
Ewch i gyfarfodydd eich ardal a’ch cangen a rhannwch eich straeon â’ch cyd-aelodau yn yr NEU.
A chadwch eich llygaid yn agored – efallai y bydd eich stori’n ymddangos yng nghylchgrawn Addysgu!
Gwybod eich hawliau, mae gennych hawl i fod yn ddiogel yn y gwaith ac i weithio heb unrhyw sylwadau rhywiaethol, aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth.
Defnyddiwch yr awgrymiadau gwych a'r cymalau model hyn i adeiladu eich polisïau ysgol eich hun. Dechreuwch sgyrsiau a fydd yn llywio cynnwys eich polisi ysgol.
Dull ysgol gyfan o ddatblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb cymunedol wrth atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol.
Mae mynd i'r afael â chasineb at fenywod, o dynnu coes i Andrew Tate, mae angen cynnwys bechgyn a dynion ifanc fel rhan o'r ateb.
Astudiaeth achos:
Sut i arwain chwyldro mewn cydraddoldeb rhywedd yn eich ysgol chi
Fel nifer o fenywod yn y byd addysg, mae gan Laura Rutley blant, ac mae’n rhaid iddi gydbwyso gofalu am ei phlant a gweithio. Er mwyn dringo’r raddfa gyflog, roedd gofyn iddi gyflwyno corff o dystiolaeth, er gwaethaf y ffaith ei bod hi wedi cael gwerthusiadau gwych.
Waeth pa mor ddygn roedd hi’n ceisio cydbwyso’i gwaith a’i chyfrifoldebau gofal plant, doedd ganddi fyth ddigon o amser i roi’r corff hwn o waith at ei gilydd. Holodd Laura rai o’i chydweithwyr i weld a oedd ganddyn nhw unrhyw awgrymiadau. Er cryn fraw iddi, gwelodd fod nifer o’i chydweithwyr benywaidd hefyd heb allu dringo’r raddfa gyflog, a hynny’n llwyr gan nad oedden nhw wedi gallu dod o hyd i’r amser, fel mamau a oedd yn gweithio, i roi’r corff hwn o waith at ei gilydd.
Fydd hi ddim yn syndod i neb bod y bwlch cyflogau rhwng y rhyweddau yn 18.8 y cant yn y byd addysg.
O gofio hefyd am faich Covid-19 ar fenywod, teimlai Laura fod yn rhaid iddi weithredu.
Penodol ac Uchelgeisiol - Ysgrifennodd Laura at ei phennaeth yn cynnig creu grŵp cydraddoldeb rhywedd.
Mesuradwy – Bydd y myfyrwyr yn cael holiadur am eu profiadau/teimladau bob blwyddyn, gan ddefnyddio holiadur UK Feminista am rywiaeth.
Cyraeddadwy - Dechreuodd Laura gasglu grŵp o gydweithwyr cefnogol ynghyd (dynion a menywod) a fyddai’n hoffi bod yn rhan o’r gwaith hwn. Cafodd hi ei synnu a’i chalonogi fod cynifer o’i chydweithwyr yn gefnogol ac eisiau cyfrannu – pobl o bob rhywedd a chefndir. Cysylltodd Laura â’r staff ym mhob cyfadran a chyn hir roedd hi’n gallu cynnull grŵp o tua 20 o staff, a fydd yn cwrdd yn rheolaidd i werthuso’r cynnydd ac i drafod y camau nesaf.
Synhwyrol - Dechreuodd Laura ymchwilio i newid diwylliannol. Aeth ati hefyd i ddarllen amcanion cydraddoldeb yr ysgol. Os bydd ysgol yn ceisio sicrhau cydraddoldeb, bydd yr ysgol honno hefyd yn ceisio newid pethau. Teimlai Laura ei bod hi’n bwysig gwreiddio cydraddoldeb yn holl systemau, polisïau a gweithdrefnau’r ysgol, a dechreuodd weithio’n agos gyda’r uwch dîm arwain. Roedd ei phennaeth a nifer o aelodau’r uwch dîm arwain yn hynod o gefnogol.
Amserol – Mae gan yr ymgyrch amserlen 5 mlynedd, gyda nodau ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.
Ers cynnig y syniad, mae Laura wedi: