Illustration

Atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol

Nod y pecyn cymorth hwn yw helpu aelodau’r NEU i gymryd y camau sydd eu hangen i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol.

Read this in English

Beth yn union yw dull ysgol gyfan o atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol, a sut rydyn ni’n rhoi hwnnw ar waith?

Er mwyn mynd i'r afael yn briodol â rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol mewn ysgolion, mae angen i ni fynd i'r afael ag ef ar draws yr ysgol. Er mwyn helpu i sicrhau eich bod yn cyrraedd pob maes, mae'r NEU wedi creu'r model hwn sy'n edrych ar themâu a llinynnau ar draws yr ysgol.

Dechrau arni

Dysgwch bopeth am ein dull ysgol gyfan a sut i ddechrau arni.

Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnwys pum thema a phum llinyn y gallwch eu harchwilio:

  • Arweinyddiaeth.
  • Staff.
  • Myfyrwyr.
  • Cwricwlwm.
  • Cymuned.

  • Cerrig sylfaen.
  • Cynhwysiant.
  • Cysylltiadau rhwng pobl.
  • Cnoi cil.
  • Cynrychioli.

Mae’n cymryd amser i newid diwylliant. Rhywbeth a fydd yn digwydd yn raddol, yn hytrach na dros nos, yw hyn. Mae angen blynyddoedd i bethau newid, a mwy o lawer na thymor neu flwyddyn ysgol. Mae pecyn cymorth yr NEU yn eich galluogi i ddewis y camau cyntaf mwyaf defnyddiol i’w cymryd yn eich ysgol chi. Mae hefyd yn eich galluogi i gynllunio at y tymor hwy.

Bydd pob ysgol yn dechrau o fan cychwyn gwahanol, ac rydyn ni’n eich cynghori i drafod a chnoi cil fel grŵp o staff i benderfynu ar y camau cyntaf neu’r camau nesaf, yn dibynnu ar eich cyd-destun a natur eich cymuned chi. Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i greu er mwyn i chi a’ch cydweithwyr ddewis beth sy’n ddefnyddiol ac addasu’r cynnwys, cyn dewis a dethol yr elfennau a’r dulliau gweithio rydych chi am eu defnyddio.

Adnoddau i'w darllen a'u rhannu

Gwybod eich hawliau, mae gennych hawl i fod yn ddiogel yn y gwaith ac i weithio heb unrhyw sylwadau rhywiaethol, aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth.

Fideos

Play video Feminism in Schools with Charlotte Carson video

Sgwrs Dyna Ddigon: Ffeministiaeth mewn Ysgolion gyda Charlotte Carson

Sut ydych chi'n mynd ati i atal rhywiaeth mewn ysgolion? Sut ddylech chi weithio gyda chydweithwyr a myfyrwyr? Clywch am enghraifft Charlotte o hyfforddi tîm staff ysgol gyfan ac ymgysylltu myfyrwyr yn ystyrlon mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Play video Sexism in Schools with Annie Morgan video

Sgwrs Dyna Ddigon: Rhywiaeth mewn Ysgolion gydag Annie Morgan

Clywch gan Annie am ei hymagwedd ‘Ysgolion yn Erbyn Rhywiaeth’ a sut y sefydlodd grwpiau myfyrwyr gweithgar, ymgysylltiol a chefnogi ei chydweithwyr i gymryd grŵp dysgu gweithredol i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol fel rhan o’u DPP.

Posteri

Meddai’r ysgol hon Dyna Ddigon: rhaid i rywiaeth ac aflonyddu rhywiol stopio

Poster Ysgol Dyna Ddigon

Poster Dyna Ddigon ar gyfer ysgolion, gallant ychwanegu gwybodaeth am wasanaethau cymorth yr ysgol ar y gwaelod.

Dweud na wrth rywiaeth!

Ymunwch â'r ymgyrch

Cofrestrwch ar gyfer yr ymgyrch gyda'r cerdyn post addewid hwn.

Lawrlwytho’r cerdyn post

Anfonwch eich straeon atom

Rhowch wybod i ni am eich straeon cadarnhaol fel y gallwn rannu eich gwaith gwych:

neuwomen@neu.org.uk

Back to top