Deall eich hawliau
- Mae gennych chi hawl i fod yn ddiogel yn y gwaith, ac i allu gweithio heb wynebu sylwadau rhywiaethol, cam-drin rhywiol ac aflonyddu rhywiol.
Ymddygiad digroeso yw aflonyddu rhywiol, a hwnnw’n amharu ar eich urddas neu’n creu awyrgylch bygythiol, gelyniaethus, bychanol, sarhaus neu annymunol i chi. Mae’n ymddygiad digroeso tuag atoch chi oherwydd eich rhyw, neu’n ymddygiad digroeso o natur rywiol.
Byddai aflonyddu rhywiol o natur rywiol yn cynnwys sylwadau rhywiol aflednais gan gydweithiwr neu fyfyriwr; arddangos deunydd rhywiol annymunol neu graffiti rhywiaethol; ystumiau rhywiol annymunol; sylw corfforol di-baid, digroeso; cyffwrdd; neu ymosodiadau rhywiol.
Mae trin menywod neu ddynion yn llai ffafriol gan eu bod nhw wedi derbyn neu wrthod cynigion rhywiol hefyd yn gyfystyr ag aflonyddu rhywiol.
Yn ôl gwaith ymchwil y TUC am aflonyddu rhywiol yn y gwaith, gwelwyd bod dros hanner yr holl fenywod a gafodd eu holi wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol (Adroddiad y TUC am aflonyddu rhywiol 2016). Yn y rhan fwyaf o achosion, cydweithiwr gwrywaidd oedd y sawl a gyflawnodd hyn, gyda bron I un ym mhob pump yn dweud mai eu rheolwr uniongyrchol neu rywun arall a oedd ag awdurdod uniongyrchol drostyn nhw a gyflawnodd hynny.
- Cofiwch am ddyletswyddau’ch cyflogwr
Mae athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol i gyd wedi’u gwarchod yn benodol yn y gwaith rhag aflonyddu rhywiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydych chi wedi’ch gwarchod boed chi’n gweithio’n barhaol, am gyfnod penodol, ar sail amser llawn, ar sail ran amser, fel athro cyflenwi, neu i asiantaeth.
Mae eich cydweithwyr, eich rheolwyr a’ch llywodraethwyr wedi’u gwahardd rhag aflonyddu arnoch chi. Os ydych chi’n weithiwr asiantaeth, mae’ch asiantaeth a’r bobl sy’n eich penodi i weithio wedi’u gwahardd rhag aflonyddu arnoch chi. Rhaid i’ch cyflogwr gymryd camau i atal ac i fynd i’r afael ag aflonyddu anghyfreithlon yn y gwaith gan drydydd parti nad yw’n eich cyflogi neu nad yw’n gydweithiwr i chi, fel myfyriwr neu riant.
- Cadwch ddyddiadur
Os bydd rhywun yn aflonyddu’n rhywiol arnoch chi, casglwch gymaint o dystiolaeth ysgrifenedig ag y gallwch chi, fel llythyrau, negeseuon e-bost, negeseuon testun a sgrinluniau perthnasol. Cadwch ddyddiadur o’r holl ddigwyddiadau lle bu ymddygiad digroeso, gan gynnwys y dyddiadau, yr amseroedd, y llefydd, enwau unrhyw dystion, a’ch ymateb i’r ymddygiad dan sylw.
- Gofalwch am eich iechyd
Cadwch gofnod o sut mae’r aflonyddu yn effeithio ar eich iechyd, e.e. eich symptomau ac unrhyw gyfnodau’n absennol o’r gwaith. Fe’ch cynghorir i fynd i weld eich meddyg teulu a rhoi gwybod i’ch cyflogwr yn ysgrifenedig os yw’r ffordd rydych chi’n cael eich trin yn y gwaith yn effeithio ar eich iechyd. Gall yr undeb eich helpu i ysgrifennu’r llythyr hwn. Os byddwch chi’n credu bod y straen y byddwch chi’n ei theimlo yn sgil yr aflonyddu yn y gwaith wedi arwain at iselder, anhwylder gorbryder, neu seicosis, efallai y byddwch chi’n dioddef o salwch seiciatrig cydnabyddedig. Os hynny, dylech chi ofyn am gyngor ar unwaith gan yr undeb.
Mae gennych chi hawl i fod yn ddiogel yn y gwaith, ac i allu gweithio heb wynebu sylwadau rhywiaethol, cam-drin rhywiol ac aflonyddu rhywiol.
- Byddwch yn rhagweithiol
Gweithredwch heb oedi. Efallai y bydd camau anffurfiol yn datrys y broblem yn gyflym. Ar y llaw arall, efallai y bydd angen dilyn gweithdrefnau ffurfiol.
Dylid rhoi gwybod am ymddygiad annymunol gan fyfyrwyr o dan y weithdrefn ymddygiad neu’r weithdrefn ar gyfer disgyblu myfyrwyr, neu drwy ysgrifennu at eich pennaeth. Pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl, dylai’ch ysgol gofnodi unrhyw ddigwyddiadau yn eich erbyn fel digwyddiadau rhywiaethol neu ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag aflonyddu rhywiol, yn hytrach na bwlio cyffredinol.
Dylid delio ag aflonyddu rhywiol gan gydweithiwr o dan weithdrefnau’ch gweithle.
- Sgwrsiwch â’ch cynrychiolydd yn yr NEU
Trafodwch eich pryderon â chynrychiolydd eich gweithle. Efallai y bydd eich cydweithwyr wedi gwneud cwynion tebyg, ac efallai y cewch gyngor i fynd i’r afael â’r mater ar y cyd.
Efallai y byddwch chi neu’ch cynrychiolydd yn penderfynu gofyn am ragor o gyngor am y camau y dylech chi’u cymryd. Efallai y byddwch chi’n dewis delio â’r mater yn anffurfiol, a gallech anfon ein llythyr enghreifftiol at yr unigolyn yn gofyn am roi stop ar yr ymddygiad. Efallai y cewch gyngor i gyflwyno cwyn ar y cyd â’ch cydweithwyr. Mae aflonyddu gan amlaf yn symptom o ddiwylliant ehangach o anfodlonrwydd mewn ysgol neu goleg, ac mae’n debygol y bydd cydweithio yn ffordd fwy effeithiol o rymuso’ch cydweithwyr, codi’u hysbryd, ac osgoi rhagor o aflonyddu.
Gallai hyn ddatrys y broblem. Mewn achosion prin, efallai y cewch eich cynghori i fynd â’r mater i dribiwnlys cyflogaeth.
Y nod ym mhob achos fydd rhoi stop ar yr ymddygiad digroeso a’ch galluogi i barhau i weithio mewn amgylchedd proffesiynol lle nad oes dim aflonyddu.
- Sicrhewch fod eich cyflogwr yn ymateb
Ar ôl i chi roi gwybod am rywbeth, dylai’ch cyflogwr neu’ch asiantaeth ymchwilio, rhoi stop ar unrhyw ymddygiad digroeso, a chymryd camau priodol i atal hyn rhag. digwydd eto i chi neu i rywun arall.
Gofynnwch i gynrychiolydd eich gweithle neu i swyddfa’ch ysgol neu goleg am gopïau o’r polisïau aflonyddu a bwlio. Mae’r NEU yn annog pob gweithiwr i fabwysiadu polisïau a gweithdrefnau aflonyddu a bwlio clir ar gyfer delio’n deg ac yn gyflym ag aflonyddu yn y gweithle.
- Gofalwch fod gan y gweithle bolisïau
Mae gan gyflogwyr yn y sector addysg ddyletswydd statudol i fod yn rhagweithiol wrth gael gwared ar wahaniaethu ac aflonyddu, ac wrth hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i staff a disgyblion. Rhaid iddyn nhw asesu effaith eu polisïau a’u gweithdrefnau ar y bobl y bydd hynny’n effeithio arnyn nhw, a bod yn barod i ddiwygio gweithdrefnau pan fydd gwneud hynny’n rhesymol. Cysylltwch â chynrychiolydd eich gweithle neu’ch cangen leol os hoffech chi gyfrannu at adolygu effaith y polisïau a’r gweithdrefnau yn eich gweithle ar gydraddoldeb.
Gallwch ddefnyddio ein polisi aflonyddu a bwlio enghreifftiol a’r rhestr wirio ar gyfer cwyno am aflonyddu a bwlio. Defnyddiwch y cymalau enghreifftiol hyn yn sail i greu eich polisi aflonyddu rhywiol penodol chi.
- Dewch ynghyd
Gallwch chi ymuno ag aelodau’r NEU i fynd i’r afael ar y cyd ag aflonyddu rhywiol yn y gwaith. Gall aelodau weithio gyda’i gilydd i helpu i atal aflonyddu rhywiol drwy wella polisïau, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth yn y gweithle. Gallwch ddefnyddio ein canllaw i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol gyda’n gilydd er mwyn casglu tystiolaeth o aflonyddu rhywiol drwy Holiadur Cyfrinachol. Gallwch hefyd gymryd camau’n unigol neu ar y cyd i stopio aflonyddu rhywiol rhag digwydd eto.
- Gofynnwch am gyngor
Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch chi am wynebu aflonyddu rhywiol yn y gwaith, cysylltwch â llinell gyngor yr NEU heb oedi. Ffoniwch ni ar 0345 811 8111, neu anfonwch e-bost i adviceline@neu.org.uk. Y rheol gyffredinol yw bod yn rhaid cyflwyno hawliad am aflonyddu rhywiol i dribiwnlys o fewn 3 mis namyn diwrnod i’r weithred neu’r anweithred y gwneir cwyn amdani. Ewch i’n tudalen ar y we am wahaniaethu i gael rhagor o fanylion.