Creu grŵp myfyrwyr: awgrymiadau gwych i gychwyn arni
Penderfynwch pwy fydd yn rhan o’r grŵp. Dechreuwch drwy sgwrsio â’r bobl sydd o’ch cwmpas chi. A oes gan rywun arall ddiddordeb yn yr un pethau â chi? A oes rhywun arall yn teimlo rhwystredigaeth wrth weld anghydraddoldeb, ac yn awyddus i weld pethau’n newid? A oes grwpiau’n bodoli’n barod y gallech chi weithio gyda nhw? Sgwrsiwch am eich bwriadau a mapiwch y bobl y byddwch chi’n dod ar eu traws a allai’ch cefnogi chi. Byddwch chi’n aml yn canfod bod pobl yn awyddus i gyfrannu. Sgwrsiwch dros goffi, yn ystafell y staff ac ati. Mae’n llesol gwybod beth sy’n anghyfiawn ym marn pobl, a beth sy’n eu cymell nhw. Fyddwch chi ddim yn troi’n ymgyrchydd dros nos, felly treuliwch amser yn dod i ddeall y darlun mawr.
Model ymgyrchu
Mewn model ymgyrchu clasurol, byddwn ni’n symud o ddicter 🡒 i obaith 🡒 i weithredu
Ewch ati i ganfod yr angen. Po fwyaf o dystiolaeth sydd gennych chi o’r angen am newid, yr hawsaf yw dechrau’r sgwrs.
Beth yw’r problemau yn eich ysgol chi? Gallech chi gychwyn drwy ganfod yr achosion o rywiaeth ac aflonyddu rhywiol sy’n digwydd. I gael y wybodaeth honno, gallech chi edrych ar ddata a chofnodion am achosion perthnasol gyda’ch tîm diogelu neu’ch arweinwyr bugeiliol. Er enghraifft, achosion sy’n ymwneud â defnyddio iaith rywiaethol, sgertsbecian ac aflonyddu rhywiol.
Meddyliwch am anghenion eich myfyrwyr penodol – er enghraifft, eu demograffeg, eu hoedran a’u ffydd, a beth maen nhw’n ei deimlo sydd ei angen.
Mae’n ddefnyddiol gwybod bod Estyn yn cydnabod bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn hynod o gyffredin ym mywydau disgyblion ifanc, a dylai ysgolion ddilyn dull ataliol a rhagweithiol, sy’n golygu gweithio drwy’r ysgol gyfan, i fynd i’r afael â hyn.
Er mwyn gwneud hynny, dylen nhw ragdybio bod aflonyddu rhywiol a cham-drin rhywiol ar-lein yn digwydd yn eu lleoliad nhw, hyd yn oed pan nad oes adroddiadau penodol o hynny. Dylen nhw wedyn gyflwyno dull ysgol gyfan i fynd i’r afael â’r achosion hynny⁶.
Efallai y gallech chi gynnal arolwg dienw ymhlith y myfyrwyr i ganfod beth sy’n digwydd yn yr ysgol yn eu barn nhw. Cofiwch roi gwybod i’ch uwch dîm arwain am eich cynlluniau, gan esbonio beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’r canlyniadau. Gofalwch fod y tîm yn fodlon i chi fwrw ymlaen. Yn benodol, meddyliwch yn ofalus am y risg y gallai rhywun roi gwybod yn ddienw am ddigwyddiad difrifol.
Siaradwch â’ch arweinwyr i’w cael nhw i ymrwymo i hyn. Yn gyntaf, edrychwch ar beth mae’ch arweinwyr yn ei wneud i fynd i’r afael â rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn yr ysgol. A oes unrhyw bolisïau eisoes yn bodoli?
A yw’r athrawon a’r myfyrwyr yn gwybod sut i adnabod a rhoi gwybod am achosion o rywiaeth ac aflonyddu rhywiol? Os gallwch chi ddangos i’ch uwch dîm arwain eich bod chi’n cyfrannu at bolisïau ac amcanion yr ysgol, bydd y tîm yn fwy tebygol o’ch cefnogi.
Siaradwch â’ch uwch dîm arwain ac esboniwch pam eich bod chi’n teimlo bod angen creu grŵp o bobl ifanc, a rhannwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi. Yn fwy na dim, gofynnwch i’r myfyrwyr ddweud beth maen nhw’i eisiau; dyma’r prif reswm pam y dylid creu grŵp. Mae’n hollbwysig ymateb i brofiad y myfyrwyr.
Gadewch i’r myfyrwyr eich arwain chi. Os bydd y myfyrwyr eisiau creu grŵp, neu os bydd angen cymorth arnyn nhw i gynnal cyfarfodydd ac ati, ymatebwch i’w hanghenion nhw. Efallai y bydd angen cymorth arnyn nhw i benderfynu pa fath o grŵp maen nhw’i eisiau, boed hwnnw’n grŵp ffeministaidd sy’n agored i bawb, neu’n grŵp i ferched a myfyrwyr anneuaidd yn unig. Efallai y bydd bechgyn yn awyddus i gael gofod i fechgyn a dynion ifanc hefyd. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn y ddogfen, Gweithio gyda bechgyn a dynion ifanc i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol.
Cynigiwch gymorth i’r myfyrwyr er mwyn canfod beth fyddai’n fwyaf buddiol. Mae creu gofod lle gall merched (neu ferched a myfyrwyr anneuaidd) siarad am rywiaeth a normau cymdeithasol rhyweddol yn gallu bod yn hynod o werthfawr.
Byddwch yn gynhwysol. Er mwyn mynd i’r afael â rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol, mae angen dechrau drwy edrych ar stereoteipiau rhyweddol a gwahaniaethu rhyweddol. Ond mae mathau eraill o wahaniaethu hefyd yn gwaethygu rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Os bydd myfyrwyr yn perthyn i grwpiau sy’n profi gwahaniaethu fel hiliaeth neu homoffobia, gall aflonyddu rhywiol deimlo’n wahanol i’r rhain. Dydy bod yn gynhwysol ddim yn golygu anwybyddu’r ffaith bod rhywiaeth yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched, fel y dywed Ofsted yn ei adroddiad am aflonyddu rhywiol⁷.
“Er y gall pawb brofi trais ac aflonyddu rhywiol, mae’r gwaith ymchwil yn dangos bod hyn yn effeithio’n anghymesur ar ferched. Er enghraifft, merched a ddioddefodd 90 y cant o’r troseddau treisio a gofnodwyd yn erbyn plant 13-15 oed yn 2018/19. Yn y flwyddyn ddiwethaf, merched rhwng 15 ac 17 oed a ddioddefodd y cyfraddau blynyddol uchaf o gam-drin rhywiol ymhlith pobl ifanc a phlant o dan 25 oed.” [Cyfieithiad]
Serch hynny, mae angen i ni feddwl am sut bydd gwahanol grwpiau o fyfyrwyr yn profi rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Mae hyn yn golygu bod angen i ni feddwl am sut mae aflonyddu rhywiol yn effeithio ar ferched Du, merched anabl, merched lesbiaidd a deurywiol, myfyrwyr traws a myfyrwyr anneuaidd. Bydd rhai bechgyn, yn enwedig y rheini sy’n arddel hunaniaeth y gymuned LHDT+, wedi profi aflonyddu rhywiol hefyd. Helpwch eich grŵp i greu gofod diogel a chynhwysol i’r myfyrwyr.
Wrth ystyried pa mor gynhwysol yw eich grŵp, cofiwch am anabledd. Er enghraifft, yn achos anableddau corfforol, a yw hi’n hawdd clywed am eich grŵp ac ymuno â’r grŵp? A yw hi’n hawdd mynd i mewn i’r ystafell ei hun? A allech chi wneud addasiadau er mwyn i’r ystafell fod yn fwy croesawgar? I fyfyrwyr sydd ag ADY, holwch y staff arbenigol yn eich ysgol am yr addasiadau amlwg y gallech chi’u gwneud i’w cynnwys nhw. Gofalwch wedyn eich bod chi’n defnyddio iaith glir ac yn osgoi geiriau amwys.
Ystyriwch pwy sy’n defnyddio’r amser. Ystyriwch pwy sy’n defnyddio’r amser yn y grŵp. Sut mae annog merched (sy’n dueddol o siarad llai mewn dosbarthiadau cymysg) i hawlio rhan deg o’r amser siarad? Sut mae gofalu bod y myfyrwyr yn gallu rhannu a chynllunio camau sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o aflonyddu, er mwyn i fyfyrwyr Du a/ neu fyfyrwyr LHDT+ gael cyfle teg i gymryd rhan? Mae trafod beth sy’n digwydd i ferched yn yr ysgol yn gyffredinol yn fan cychwyn da. Gallech chi roi cynnig ar ein sesiwn enghreifftiol, Sgwrs wlanog, sydd i’w gweld ar ddiwedd y ddogfen hon.
Paratowch. Nid bod yn fannau i roi gwybod am ddigwyddiadau yw diben y grwpiau hyn, a dylai hyn fod wedi’i adlewyrchu yn eich trefniadau ar gyfer creu gofod diogel i’r myfyrwyr a’r staff. Bydd angen i’ch dulliau diogelu a’ch dulliau o roi gwybod am ddigwyddiadau fod yn eu lle’n barod. Gofalwch fod eich arweinydd diogelu dynodedig yn ymwybodol o’r grŵp er mwyn gallu paratoi hefyd.
Cofiwch am rym dirprwyo. Mae ysgogi newid yn waith anodd, ac mae cynnal momentwm yn ychwanegol at lwyth gwaith cyffredinol addysgu yn dalcen caled. Chwiliwch am gydweithwyr a fydd yn eich cefnogi chi. Sgwrsiwch â’r myfyrwyr sy’n arweinwyr ym mhob blwyddyn pan fydd rhai, ond chwiliwch hefyd am fyfyrwyr o flynyddoedd hŷn a allai fod yn awyddus i helpu ac ysgwyddo ychydig o gyfrifoldeb.
Gofalwch amdanoch chi’ch hun. Bydd eich egni i gefnogi pobl ifanc yn eu hysbrydoli nhw i newid pethau, ond os bydd y gwaith hwn yn eich llethu, bydd pawb ar ei golled. Gosodwch ffiniau i chi’ch hun, cyfyngwch yr amser y byddwch chi’n ei neilltuo i’r grŵp, ac amgylchynwch eich hun â phobl a fydd yn eich cefnogi, yn eich egnïo, ac yn eich helpu i ymlacio ar ôl sesiynau. Rydych chi’n bwysig, ac yn haeddu gofal, a dylech chi drin eich hun yn y fath fodd.
⁶ Ofsted (10 June 2021) Review of sexual abuse in schools and colleges
⁷ Ofsted (10 June 2021) Review of sexual abuse in schools and colleges