Astudiaeth achos:
Cyflwyno rhaglen ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol ochr yn ochr â dulliau eraill sy’n golygu gweithio drwy’r ysgol gyfan.
Pan gyflwynwyd y dull hwn, ar y cychwyn roedd nifer o ddisgyblion naill ai’n teimlo’n amddiffynnol neu’n amheus o’r rhaglen, ac mewn rhai achosion, yn amheus ac yn amddiffynnol ill dau. Roedd hi’n hollbwysig rhoi pwyslais ar wrando ac ar gynnwys y disgyblion yn y broses er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cydweithredu ac er mwyn creu ymdeimlad o berchnogaeth.
Gwella wnaeth adborth y disgyblion. Er enghraifft, roedd pobl yn teimlo bod amserlennu sesiwn reolaidd i drafod y pynciau hyn yn adlewyrchiad o werthoedd yr ysgol. Dywedodd un disgybl fod “y ffaith bod yr ysgol yn barod i neilltuo cymaint â hyn o amser yn yr amserlen i’r gwersi hyn yn anfon neges glir ynghylch pa mor bwysig yw hyn i’r ysgol – mae hynny ynddo’i hun yn newid normau cymdeithasol”.
Wrth i’r cwrs o wersi i’r chweched dosbarth fynd rhagddo, roedd rhai disgyblion yn feirniadol iawn ar y cychwyn pan fyddai bechgyn yn cwestiynu pam roedd rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn gymaint o broblem. Roedd y disgyblion hyn eisiau diystyru sylwadau o’r fath, gan deimlo bod y bechgyn yn bod yn ansensitif ac y dylid eu cosbi.
Erbyn diwedd y cwrs, roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr wedi sylweddoli pa mor bwysig oedd y gwersi wrth roi gofod diogel i gyfathrebu, lle roedd yr holl sylwadau’n cael eu clywed a’u trafod. Roedd hi’n gwbl iawn dweud pam fod sylw’n brifo, ond i beidio â diystyru’r sawl oedd yn gwneud y sylw (dim ond sylwadau a oedd yn fwriadol amharchus a fyddai wedi cael eu cosbi, a gwnaethpwyd hyn yn glir, ond nid oedd hynny’n angenrheidiol yn y pen draw). O edrych yn ôl, byddai hi wedi bod yn dda rhoi mwy o bwyslais ar werth y cyfathrebu agored hwn o’r dechrau’n deg, gan atgoffa’r disgyblion yn amlach bod hybu agweddau amddiffynnol yn atal newid diwylliant.
Dyma rai arwyddion sy’n dangos bod y rhaglen wedi bod yn ddefnyddiol:
- Mwy o bobl yn rhoi gwybod am ymddygiad niweidiol wrth i ymwybyddiaeth ac ymddiriedaeth gynyddu, gan gynnwys bechgyn yn mynegi pryderon am eu hymddygiad blaenorol nhw. (Pe bai’r tueddiadau’n cael eu monitro dros nifer o flynyddoedd, dylai’r achosion hyn o roi gwybod am ddigwyddiadau ostwng os yw’r rhaglen yn effeithiol).
- Sylwadau fel “fyddai neb yn breuddwydio gwneud jôc am dreisio erbyn hyn”. Parodrwydd mwy na 15 y cant o’r chweched dosbarth i helpu i addysgu elfennau o’r dull ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol (elfennau sydd wedi’u dewis yn ofalus) i flynyddoedd iau (gyda’r staff yn goruchwylio ac yn hwyluso).
Yr awgrymiadau wedi’u llunio gan Dr Vicky Stubbs, ymgynghorydd, siaradwr a hyfforddwr ABCh ac ABGI mewn ysgolion. Enillydd Addysgwr y Flwyddyn y Fforwm Addysg Rhyw (Arloesi) am waith yn y maes ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol; un o Athrawon Arbenigol Adran Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig a fu’n gweithio ar ganllawiau newydd yn 2022; ac awdur, ar y cyd ag ymgynghorwyr y GIG a thîm graffeg, adnoddau addysgu ar gyfer gwefan newydd am iechyd y ceilliau.
Email VickyStubbsPSHE@gmail.com
Visit Testicular Health