Maniffesto NEU Cymru

Mae maniffesto NEU Cymru yn seiliedig ar bryderon ein haelodau. Mae ein maniffesto yn dangos yr angen i’r Llywodraeth Cymru nesaf sicrhau bod system addysg Cymru yn derbyn mwy o gyllid, yn ymddiried yn y gweithlu ac yn dod a thlodi plant i ben

Read this in English

Maniffesto Achub Addysg Cymru 2026

Ym mis Mai 2026 cynhelir etholiadau bwysig yng Nghymru. Dyma eich cyfle i helpu Achub Addysg yng Nghymru.

Dyma eich cyfle i bleidleisio i Achub Addysg yng Nghymru rhag ymosodiad ar delerau ac amodau.

Dyma eich cyfle i Achub Addysg yng Nghymru rhag academïau - sydd yn blaenoriaethu buddiannau preifat, nid plant a’u haddysg.

Dyma eich cyfle i Achub Addysg yng Nghymru rhag ymosodiad ar werthoedd Cymreig -  cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. 

Dyma eich cyfle i bleidleisio i Achub Addysg yng Nghymru.

Gwiriwch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio ym mis Ma

Cadw system, addysg wladwriaethol

Nid ydi’r system addysg yng Nghymru yn berffaith, ond mae aelodau NEU Cymru yn gadarn eu barn – mae angen cadw system addysg wladwriaethol, nid ailgyfeirio arian i’r sector breifat. 

Dyma rhai o’r pethau mae ein haelodau yng Nghymru yn ei gefnogi:

  • Dim Academïau - Awdurdodau Lleol i redeg ein hysgolion
  • Cyfnod Sylfaen –dysgu trwy chwarae
  • Dim TASau a llai o ffocws ar arholiadau diwedd blynedd
  • Brecwastau am ddim ar gyfer pob plentyn oedran ysgol gynradd
  • Partneriaeth gymdeithasol - gweithio teirochrog gyda’r undebau
  • Gwyliau haf hir – mae’n rhaid rhoi’r egwyl mae pawb yng Nghymru ei angen

Ond mae angen fwy o gefnogaeth ar y system addysg yng Nghymru. Mae’n aelodau yn dweud wrthym nad ydynt yn gallu parhau i wneud mwy gyda llai.

Mae ein maniffesto yn gosod allan blaenoriaethau aelodau NEU Cymru ar gyfer system addysg y dyfodol: 

  • Cyllido’r system addysg yn llawn
  • Ymddiried yn y gweithle
  • Dod a Thlodi Plant i Ben

Lawr lwythwch gopi nawr, a rhannwch gyda chydweithwyr a’ch cynrychiolwyr lleol. 

Er mwyn darganfod pwy yw’r ymgeiswyr yn eich ardal leol, ewch i

Sut y gallwch chi helpu:

  • Rhannu ein maniffesto gyda chydweithwyr (dolen)
  • Cyfarfod gyda’ch ymgeiswyr lleol – cysylltu gyda’ch Ysgrifennydd Ardal leol Dolen ar gyfer cysylltiadau
  • Gwneud yn siŵr bod pobl ifanc wedi cofrestru i bleidleisio Maybe this is HNH link?

A ydych yn ymgeisydd? Cysylltwch gyda ni, a gadewch i ni wybod os ydych yn dymuno Achub Addysg yng Nghymru: Cymru.wales@neu.org.uk

Adnoddau’r Comisiwn Etholiadol

Beth yr ydym ni’n ei wneud?

Rydym wedi cwrdd gyda’r pleidiau gwleidyddol - gan anfon ein maniffesto at Blaid Cymru, Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig , y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a’r Blaid Werdd Cymru, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n clywed eich neges dyma eu cyfle i Achub Addysg yng Nghymru.

Ynglŷn ag etholiadau Mai

Ym mis Mai, mae Cymru yn pleidleisio i ethol 96 aelod i’r Senedd, yn seiliedig ar system pleidleisio ac etholaethau newydd. Mae’r Senedd o’r 60 o aelodau cyfredol. 

Mae gennych un bleidlais dros blaid wleidyddol, ac fe fydd pob sedd yn ethol 6 cynrychiolydd.

Mae Cymru wedi ei rhannu i mewn i 16 etholaeth fawr (mae’r etholaethau Senedd San Steffan wedi eu paru), gwelwch y map isod. 

Map of Senedd constituencies 2026

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r etholiadau ym mis Mai, a’r system bleidleisio, ewch i

Back to top