Cover image

Siarter i athrawon newydd gymhwyso

Athrawon newydd gymhwyso (ANG) yw dyfodol y proffesiwn ac maen nhw’n haeddu cael hyfforddiant rhagorol i’w helpu i ddatblygu’n broffesiynol gydol eu gyrfaoedd.

Read this in English
Published:
Lawrlwytho

Dylai pob ANG gael:

Cefnogaeth a chyfleoedd dysgu proffesiynol rhagorol

Dylai’r gefnogaeth fod yn berthnasol i gyd-destun yr ysgol, gan wneud mwy na dim ond ailadrodd beth ddysgwyd yn ystod hyfforddiant cychwynnol athrawon. Mae angen i bob ANG gael cyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd da, er mwyn gallu sicrhau safonau uchel i bawb.

Disgwyliadau clir, gwybodaeth glir

Dylai pob ANG wybod beth i’w ddisgwyl. Dylai wybod pwy yw’r corff priodol; dylai wybod sut i gysylltu â mentor y cyfnod sylfaen, y mentor allanol a’r gwiriwr allanol; a dylai wybod at bwy y gall droi i gael cyngor am bolisïau’r ysgol. Ni ddylid disgwyl i athrawon newydd gymhwyso gael ‘cynlluniau cefnogi’, gan nad yw’r rheini’n addas i reoli eu cynnydd.

Mentora ystyrlon: cyfarfodydd rheolaidd a thrafodaethau i fyfyrio

Dylai’r amser ar gyfer hyn fod yn gyson ac wedi’i warchod. Dylai pob ANG fod yn cwrdd yn rheolaidd â mentoriaid y cyfnod sylfaen neu fentoriaid allanol, gan gael arweiniad ac adborth defnyddiol a phwrpasol. Mae mentora effeithiol yn golygu bod anawsterau’n cael eu canfod yn gynnar ac yn cael eu datrys yn gynnar, a dylai athrawon newydd gymhwyso gael cymorth prydlon ac addas os byddan nhw’n wynebu unrhyw broblemau.

Trefniadau cyflogaeth hyblyg sy’n blaenoriaethu anghenion yr ANG

Gall athrawon newydd gymhwyso gwblhau’r cyfnod sylfaen mewn mwy nag un sefydliad, drwy gyflogaeth amser llawn neu ran amser, neu drwy gyflogaeth mewn swyddi cyflenwi tymor hir a thymor byr. I’r rheini sy’n awyddus i gael lleoliadau am gyfnodau hwy, dylai contractau sy’n para’r cyfnod sefydlu a’r tu hwnt iddo fod ar gael. Mae ymrwymo i anghenion datblygu proffesiynol athrawon newydd gymhwyso yn dangos eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi.

Parch

Rhaid parchu a gwerthfawrogi athrawon newydd gymhwyso. Dylid eu hannog i gymryd rhan ym mywyd ehangach yr ysgol pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl, i ymuno â rhwydweithiau cymheiriaid, ac i weld amrywiaeth o ddulliau addysgu ar waith. Dylen nhw deimlo’n ddigon hyderus i ofyn am gymorth ac arweiniad.

Back to top