Canllaw i’r cyfnod sefydlu yng Nghymru

Canllaw i’r cyfnod sefydlu yng Nghymru

Mae'r NEU wedi llunio'r canllaw dwyieithog hwn i helpu i wneud i'ch blwyddyn sefydlu weithio i chi.

Read this in English
Published:
Lawrlwytho

Cyflwyno’r cyfnod sefydlu

Mae’r cyfnod sefydlu yn rhan bwysig o’ch datblygiad fel athro neu athrawes. Mae’r Undeb Addysg Cenedlaethol (yr NEU) wedi creu’r canllaw hwn i ateb rhai o’ch cwestiynau ac i helpu i sicrhau bod y cyfnod sefydlu yn llwyddiannus i chi.

Yng Nghymru, blwyddyn yw hyd y cyfnod sefydlu i bob athro newydd gymhwyso (ANG) sydd mewn swydd amser llawn. Yn Lloegr, mae’r cyfnod sefydlu yn para dwy flynedd.

I athrawon newydd sydd wedi cael statws athro cymwysedig (SAC), mae ystyr penodol iawn i’r cyfnod sefydlu. Er mwyn gallu parhau i addysgu heb gyfyngiadau mewn ysgolion a gynhelir, ysgolion arbennig nas cynhelir (neu ysgolion annibynnol), ysgolion meithrin a gynhelir, canolfannau plant a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion, rhaid ichi gwblhau’r cyfnod sefydlu angenrheidiol yn llwyddiannus a hynny drwy gyflawni’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Mae’r safonau hyn yn rhoi’r meini prawf a gaiff eu defnyddio i asesu athrawon newydd gymhwyso, ac maen nhw’n dangos yr hyn y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol gan athrawon newydd gymhwyso erbyn diwedd y cyfnod sefydlu.


Nodyn am y cyfnod sefydlu yn Lloegr

Yn Lloegr, mae’r cyfnod sefydlu wedi’i seilio ar y fframwaith gyrfa gynnar (ECF) a gafodd ei gyflwyno yn 2021. Mae’r ECF yn ei gwneud yn ofynnol i athrawon sydd â SAC gwblhau cyfnod sefydlu o ddwy flynedd, gyda rhaglen strwythuredig o gefnogaeth, mentor penodol, ac amser ychwanegol i ffwrdd o’r amserlen yn yr ail flwyddyn yn addysgu.

Mae sawl peth yn debyg rhwng y systemau sefydlu yng Nghymru a Lloegr, ond dydyn nhw ddim yn union yr un fath. Os byddwch chi’n gwneud eich cyfnod sefydlu yn Lloegr, ewch i Induction in England i gael mwy o wybodaeth neu cysylltwch â’r NEU i ofyn am gopi o Your Guide to Induction in England.


Dechrau arni – cofrestru

Fel ANG, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cofrestru yn y categori athrawon ysgol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, a bod gennych chi wiriad cyfredol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn ichi ddechrau gweithio.

Cyn gynted ag y byddwch chi’n dechrau eich cyfnod sefydlu, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i Gyngor y Gweithlu Addysg eich bod yn gwneud y cyfnod sefydlu yng Nghymru. Bydd hynny’n sicrhau eich bod yn dechrau eich cyfnod sefydlu ac yn agor eich proffil sefydlu.

Os byddwch chi’n symud i ysgol wahanol, bydd angen ichi gwblhau’r broses eto. Mae hyn yn hollbwysig os ydych chi’n athro cyflenwi ad hoc sy’n gweithio mewn nifer o ysgolion gwahanol.

Ceisiwch sicrhau bod cyfnod eich cyflogaeth ym mhob ysgol wedi’i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg at ddibenion sefydlu, a hynny cyn ichi ddechrau yn y swydd. I athrawon cyflenwi, dylech gofrestru’r ysgolion rydych chi wedi gweithio ynddyn nhw o fewn pythefnos i’ch diwrnod cyntaf yno.


Beth yw’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth yng Nghymru?

Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiadau sy’n nodweddu ymarfer rhagorol, ac maen nhw’n helpu pobl i ddatblygu’n broffesiynol. Ceir pump o safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, a’r rheini’n canolbwyntio ar yr elfennau hanfodol yng ngwaith pob athro. I gyd-fynd â’r safonau proffesiynol, ceir gosodiadau a gwerthoedd cyffredinol sy’n ceisio sbarduno athrawon i gyflawni eu gorau glas. Mae’r safonau proffesiynol yn helpu addysgwyr i sicrhau bod eu hymarfer o hyd yn rhagorol, o athrawon dan hyfforddiant i arweinwyr ysgolion.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Dysgu proffesiynol

Back to top