Cover image

Rhestr Wirio Sefydlu

Rhestr wirio sefydlu dwyieithog, canllaw arfer da ar gyfer ANG mewn ysgolion. 

Read this in English
Published:
Lawrlwytho

Rhestr wirio arferion da ar gyfer ANG

Er mwyn cyflawni cyfnod sefydlu yng Nghymru rhaid i ANG fod wedi’u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yng nghategori athro ysgol. Tri thymor ysgol, neu gyfnod cyfwerth, yw’r cyfnod sefydlu, sy’n cyfateb i 380 o sesiynau. Diffinnir sesiwn fel un bore neu brynhawn llawn mewn ysgol. Dim ond cyfnodau o gyflogaeth lle mae’r ANG yn cael ei gyflogi fel athro cymwysedig a all gyfrif tuag at Sefydlu. Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi cyllid i ysgolion i gynorthwyo â’r gwaith o ddarparu hawl statudol yr ANG i 10 y cant o leihad yn ei amserlen (yn ychwanegol at ei amser CPA).

Yn 2022, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar newidiadau i’r trefniadau sefydlu yng Nghymru. Cynigiodd y llywodraeth weithredu’r newidiadau arfaethedig ym mis Medi 2022 ond, ar adeg argraffu, nid yw’r newidiadau hyn wedi’u cadarnhau eto.

Os NA yw’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau isod, dylech, fel aelod newydd gymhwyso o’r Undeb Addysg Cenedlaethol, drafod y mater gyda’ch cynrychiolydd gweithle yn gyntaf. Gofynnwch i gydweithiwr os nad ydych yn sicr pwy yw eich cynrychiolydd. Os nad oes cynrychiolydd yn eich gweithle dylech gysylltu â’r Undeb Addysg Cenedlaethol ar 0345 811 8111.

  • Oes mentor sefydlu wedi’i benodi i’ch cefnogi?
  • A gawsoch eich annog i fod yn rhan o gynllunio’ch rhaglen sefydlu?
  • A gawsoch chi raglen ar gyfer eich holl weithgareddau sefydlu, gan gynnwys arsylwadau, adolygiadau proffesiynol o gynnydd, a gweithgareddau datblygiad proffesiynol?
  • Ydych chi’n cael copïau o bob cofnod ysgrifenedig sy’n berthnasol i’ch asesu?
  • A roddwyd i chi enw rhywun yn y corff perthnasol y gallwch godi eich pryderon â nhw am eich cyfnod sefydlu?
  • A benodwyd gwiriwr allanol i chi?
  • Ydych chi’n hapus gyda chynnwys eich rhaglen sefydlu ac/neu sut mae’n cael ei chyflwyno?
  • Ydych chi’n cael eich hawl i faich gwaith addysgu llai? Mae’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) yn nodi na ddylech addysgu am fwy na 90 y cant o amser athrawon eraill yn yr ysgol sydd ar y brif raddfa gyflog (heb bwyntiau cyfrifoldeb). A yw hyn yn ychwanegol at eich 10 y cant o amser CPA?
  • Ydych chi’n cael eich cyflog ar amser?
  • Ydych chi’n teimlo bod eich swydd ddisgrifiad yn rhesymol?
  • Ydych chi’n addysgu’r ystod oedran a/neu’r pynciau i chi hyfforddi i’w haddysgu?
  • Oes gennych yr adnoddau i gefnogi’r disgyblion yn eich dosbarth?
  • Os ydych chi’n gweithio fel athro cyflenwi, ydych chi’n ymwybodol bod pob cyfnod cyflenwi yn cyfrif tuag at eich cyfnod sefydlu? A lenwoch chi’r Ffurflen Hysbysu Sefydlu fel Athro Cyflenwi Byrdymor o wefan Cyngor y Gweithlu Addysg?
  • Ydych chi wedi cael eich cytundeb cyflogaeth, amserlen, trefniadau cefnogi cyfnod sefydlu a phob polisi ysgol berthnasol?
  • Ydych chi’n hyderus eich bod yn gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ohonoch chi yn ystod eich cyfnod sefydlu, gan gynnwys sut i ddefnyddio eich proffil dechrau gyrfa a’ch Pasbort Dysgu Proffesiynol?
  • Oes mynediad hawdd gennych chi at gopi o gylchlythyr Llywodraeth Cymru 012/2017 ar sefydlu?
Back to top