Amser i weithredu
Mae’n bryd gweithredu ar faich gwaith diangen sy’n cael ei lywio gan atebolrwydd yn yr ysgol. Mae’n bryd newid Estyn a diwygio’r consortia addysg ranbarthol, haen anetholedig o atebolrwydd sydd:
- Yn gweithredu fel arolygiaeth fach
- Yn cynyddu baich gwaith gydag ymweliadau diangen
- Ddim yn canolbwyntio digon ar gefnogaeth
Mae’r ffocws ar atebolrwydd, heb y gefnogaeth angenrheidiol, yn achosi straen diangen a bydd yn arwain at athrawon da ac arweinwyr ysgolion yn gadael y proffesiwn. Mae angen y gweithwyr proffesiynol profiadol hyn arnom i gefnogi gweithrediad y cwricwlwm newydd ac i gefnogi plant Cymru gyda’i haddysg.
Er na ellir anwybyddu’r pwysau allanol hyn, nid oes angen llawer o’r mesurau atebolrwydd a weithredir mewn ysgolion gan Estyn na Llywodraeth Cymru ac maent y tu allan i ffiniau y Llyfr Bwrgwyn, Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol Cymru (STPCWD) a thelerau cytundebau ar gyfer staff cymorth.
Ochr yn ochr â’r dyfarniad cyflog ychwanegol o 1.5% a roddwyd ar gyfer 2022-23, taliad anghyfunol o 1.5% ar gyfer y flwyddyn honno a chodiad cyflog uwch i 5% ar gyfer 2023-24, mae eich streic a’ch ymgyrchu hefyd wedi galluogi NEU Cymru i sicrhau ymrwymiadau gan Llywodraeth Cymru i ariannu’r codiadau cyflog yn briodol, lleihau baich gwaith ac effaith atebolrwydd yn yr ysgol.
Rydym eisoes wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd i ystyried:
- Ailosod Grŵp Rheoli Baich Gwaith a Lleihau Biwrocratiaeth.
- Gweithredu proses asesu effaith baich gwaith ystyrlon.
- Adolygu ymgysylltiad allanol gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg.
- Lleihau gofynion adrodd ac osgoi dyblygu gwybodaeth.
Cynnwys
- Canllawiau i athrawon
- Canllawiau ar gyfer staff cymorth
- Archwiliad baich gwaith
- Codi materion gyda’ch pennaeth/UDRh
- Dwysáu materion
- Appendix A: Siart llif o gamau i’w cymryd