Archwiliad baich gwaith

Archwiliad baich gwaith y gellir ei ddefnyddio i nodi problemau baich gwaith, ar y cyd, yn eich ysgol

Read this in English
Published:
Lawrlwytho

Archwiliad baich gwaith

Cynlluniau gwersi

  • Mae athrawon yn rhydd i ddefnyddio’u barn broffesiynol wrth benderfynu ar sut i gynllunio gwersi.
  • Nid yw’n ofynnol i athrawon gyflwyno cynlluniau gwersi i aelodau o’r uwch dim rheoli neu unrhyw un yn gweithredu ar eu rhan.

Casglu Data

  • Mae cyfyngiadau llym wedi’i chytuno ar gyfer tracio disgyblion yn eich gweithle.
  • Mae pwrpas clir a ddealladwy ar gyfer casglu’r data.
  • Mae eich ysgol wedi adolygu ei weithdrefnau casglu data er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio a’r Siarter “Lleihau Baich Gwaith”.

Marcio

  • Mae cytundeb ynglŷn â beth sy’n cael ei ystyried yn marcio gwerthfawr, ysgogol a dichonadwy yn eich ysgol.
  • Nid oes disgwyl i athrawon ddarparu adborth mewn arddull penodol ac fe allent ddefnyddio barn broffesiynol wrth benderfynu sut i roi adborth i ddisgyblion.
  • Mae polisi marcio yn eich ysgol sydd wedi ei gytuno gyda chi a’ch cydweithwyr ac mae’n cydymffurfio gyda chanllawiau NEU Cymru.

Adroddiadau

  • Mae cyfyngiad yn eich gweithle o un adroddiad y flwyddyn ar gyfer pob un o’r disgyblion rydych chi’n eu haddysgu, yn ysgrifenedig neu gan ddefnyddio system sylwadau electronig.
  • Mae’r strategaeth cyfathrebu gyda rhieni wedi’i gytuno gyda staff er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru ac nid ydyw’n ychwanegu at faich gwaith athrawon.

Arsylwi Gwersi

  • Mae cyfyngiad ar y nifer o arsylwadau hyd at fwyafrif o un y tymor neu tair y flwyddyn am ddim yn hwy nag awr o hyd? (NB. efallai bod rhai eithriadau ar gyfer hyfforddeion, ANG, ymyrraeth, rheini ar weithdrefnau medrusrwydd).
  • Mae arsylwadau yn rhan o ddeialog broffesiynol, golegol.

Rheoli Perfformiad

  • Mae’r polisi rheoli perfformiad wedi ei gytuno gyda chi a’ch cydweithwyr.
  • Mae amcanion rheoli perfformiad yn rhai SMART (penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig, gyda therfyn amser) gyda chyfyngiad o dair y flwyddyn.
  • Mae targedau sy’n gysylltiedig â data wedi’i heithrio o’r amcanion rheoli perfformiad.
  • Mae cynnydd cyflog yn awtomatig.

Cyfarfodydd

  • Mae uchafswm o un cyfarfod o hyd at un awr yr wythnos yn eich gweithle.
  • Mae cyfarfodydd wedi’u cynnwys yn y calendr amser cyfeiriedig, sydd wedi ei gytuno gyda chydweithwyr NEU yn y gweithle.

Amser Cyfeiriedig

  • Mae calendr amser cyfeiriedig, sydd wedi ei drafod a chytuno gyda chydweithwyr NEU, yn eich gweithle pob blwyddyn.

Amser CPA

  • Mae athrawon yn derbyn eu deg y cant o amser CPA cytundebol wedi ei warantu yn glir yn yr amserlen.
  • Mae CPA mewn blociau o un awr fel lleiafswm.
  • Mae CPA wedi ei warchod ac nid ydi athrawon yn cael ei gofyn i ymgymryd â dyletswyddau yn ystod yr amser yma.
  • Mae athrawon yn rhydd i benderfynu sut i ddefnyddio eu hamser CPA.

Mentrau polisi newydd

  • Mae pob polisi ac arferion gwaith newydd a’i cyflwynir gan reolwyr yn derbyn asesiad risg baich gwaith ac yn cael eu cytuno cyn eu gweithredu.
  • Mae pob polisi ac arferion gwaith cyfredol wedi ei hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn angenrheidiol ac yn ysgafn o ran baich gwaith.

Taliadau cyfrifoldeb addysgu a dysgu (CAD)

  • Mae staff dysgu gyda CAD yn derbyn amser penodol yn eu hamserlen er mwyn cefnogi cyflawni eu cyfrifoldebau.
  • Nid oes disgwyl i staff dysgu nad sy’n derbyn CAD i ymgymryd â gweithgareddau rheoli.

Cyflenwi

  • Mae disgwyl i athrawon i gyflenwi “ar adegau prin” a “a dim ond o dan amgylchiadau annisgwyl” h.y. mewn argyfyngau gwirioneddol nid ar gyfer absenoldebau wedi eu trefnu.
  • Gall CALU a goruchwyliwr cyflenwi ddim ond gymryd lle athrawon ar sail gyfyngedig lym.

Goruchwylio amser cinio

  • Nid oes disgwyl i athrawon ymgymryd â dyletswyddau goruchwylio yn ystod amser cinio.

Goruchwylio arholiadau

  • Nid oes disgwyl i staff dysgu oruchwylio unrhyw arholiadau cyhoeddus, gan gynnwys TGAU a’r Asesiadau Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen a Rhifedd.
  • Nid yw’n ofynnol i athrawon oruchwylio unrhyw arholiadau ‘ffug’ ble mae’r ysgol wedi ad-drefnu amserlen yr ysgol er mwyn adlewyrchu proses arholiad allanol.

Arolygiadau ffug

  • Mae eich ysgol wedi cytuno i beidio â chynnal arolygiadau ffug a/neu archwiliadau manwl ffug i baratoi ar gyfer Estyn.

Tasgau gweinyddol

  • Nid ydi athrawon yn ymgymryd â thasgau nad oes angen arbenigedd neu farn broffesiynol athro.

Baich gwaith staff cymorth

  • Ni ddylai trosglwyddo tasgau gweinyddol/ clerigol a gyflawnir ar hyn o bryd neu a gyflawnwyd yn flaenorol gan athrawon i staff cymorth ei gwneud yn ofynnol i unrhyw staff cymorth weithio y tu hwnt i’w horiau cytundebol.
  • Mae gan staff cymorth swydd ddisgrifiadau cyfredol sy’n adlewyrchu’n gywir y gwaith maen nhw’n ei wneud.
  • Nid oes gofyn i staff cymorth weithio y tu hwnt i’w horiau cytundebol, ac, os ydynt, maent yn derbyn y taliadau goramser priodol.
  • Rhoddir datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i staff cymorth ac mae diwrnodau HMS yn canolbwyntio ar ddatblygiad yr ysgol gyfan.

Unrhyw faterion baich gwaith eraill?

Rydym yn gwybod bod pob gweithle yn wahanol ac efallai y bydd bryderon baich gwaith eraill hoffech ei chodi fel grŵp undeb.

Back to top