Dyna Ddigon: Pam mae angen i ni atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol mewn ysgolion

Dyna Ddigon: Poster infograffig ymchwil yr NEU ac Ofsted

Ymchwil yr NEU ac Ofsted ar rywiaeth.

Read this in English
Published:
Lawrlwytho
It's not OK banner

Dyna Ddigon

Nod pecyn cymorth yr ymgyrch yw helpu aelodau'r NEU i gymryd y camau sydd eu hangen i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol

Atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol

Yn ôl gwaith ymchwil yr NEU am fynd i’r afael â rhywiaeth:

Dim ond 22% of o fyfyrwyr benywaidd sy’n credu bod eu hysgol yn ymateb o ddifrif i rywiaeth.

Nid yw 78% o fyfyrwyr ysgolion uwchradd yn gwybod a oes gan eu hysgolion unrhyw bolisïau ac arferion i atal rhywiaeth.

Dim ond 22% o athrawon ysgolion uwchradd sydd wedi cael hyfforddiant ym maes datblygiad proffesiynol parhaus i adnabod ac atal rhywiaeth.

Dim ond 20% o athrawon ysgolion uwchradd sydd wedi cael hyfforddiant i adnabod ac atal rhywiaeth fel rhan o’u haddysg gychwynnol i athrawon.

Yn ôl gwaith ymchwil diweddar gan Ofsted ymhlith merched

Dywedodd 79% o ferched fod ymosodiadau rhywiol yn digwydd yn aml neu weithiau.

Dywedodd 68% eu bod nhw’n aml neu weithiau’n teimlo o dan bwysau i wneud pethau rhywiol nad oedden nhw eisiau eu gwneud.

Ar-lein:

Dywedodd 88% y cant fod pobl yn aml neu weithiau’n anfon lluniau neu fideos atyn nhw nad oedden nhw’n dymuno’u cael. 

Dywedodd 80% y cant eu bod nhw’n aml neu weithiau’n cael eu rhoi o dan bwysau i rannu lluniau rhywiol ohonyn nhw’u hunain.

Back to top