Undebau addysg yn dod at ei gilydd i dynnu sylw at argyfwng ADY

Read this in English
Published:

Heddiw, mae'r undebau addysg wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at yr argyfwng sy'n wynebu plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn ysgolion yng Nghymru. 

Yn ôl yr undebau:

"Mae'r system ADY mewn argyfwng.  Mae angen mwy o gyllid a chefnogaeth er mwyn sicrhau bod plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gallu dysgu mewn ysgolion, ochr yn ochr â'u cyfoedion.   

"Rydym wedi rhannu'r heriau sy'n bodoli yn ein hysgolion gyda Llywodraeth Cymru, ond bellach mae hi'n amser gweithredu. 

"Mae'n hanfodol fod y Llywodraeth nesaf yng Nghymru yn blaenoriaethu addysg ac yn rhoi'r gefnogaeth briodol i bob un o'n dysgwyr." 

Nicola Fitzpatrick, NEU Cymru,

Laura Doel NAHT Cymru,

Claire Armistead, ASCL Cymru,

Rosie Lewis, Unison Cymru,

Neil Butler, NASUWT Cymru,

Ioan Rhys Jones, UCAC

Back to top