Mae NEU Cymru, undeb addysg mwyaf Cymru, yn pryderu am yr argyfwng cyllido parhaus mewn addysg yng Nghymru, gyda disgyblion yng Nghymru yn derbyn hyd at £400 y flwyddyn yn llai na disgyblion yn Lloegr. Er bod llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu i ryw raddau gan yr arian maen nhw'n ei dderbyn gan y llywodraeth yn San Steffan, mae'r system a ddefnyddir i ariannu ysgolion a cholegau yn ddiffygiol iawn.
Mae NEU Cymru yn galw ar lywodraeth Cymru i gyfarwyddo'r awdurdodau lleol i glustnodi cyllid ysgolion i sicrhau ei fod yn cael ei wario ar addysg. Mae NEU Cymru hefyd eisiau ymgysylltu â phob prif blaid wleidyddol i'w hannog i bwyso ar lywodraeth y DU am fwy o gyllid i bob ysgol a choleg yng Nghymru.
Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru’r Undeb Addysg Cenedlaethol:
“Mae tanariannu addysg dros y 14 mlynedd diwethaf gan lywodraeth y DU wedi cael canlyniadau amlwg i fyfyrwyr a staff yng Nghymru. Mae addysg yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd iawn. Mewn gwirionedd, mae toriadau i gyllidebau addysg ledled y wlad.
“Mae llawer o awdurdodau lleol ledled Cymru mewn trafferthion ariannol difrifol gyda nifer yn wynebu methdaliad. Mae angen i lywodraeth Cymru newid y ffordd y mae arian yn cael ei rannu rhwng awdurdodau lleol ledled Cymru a'i ddisodli â model cyllido cyson a thryloyw.
“Gobeithio y bydd ymgynghoriad diweddar lywodraeth Cymru ar newidiadau arfaethedig i reoliadau presennol sy'n llywodraethu cyllid ysgolion yng Nghymru yn helpu gyda hyn.”
Roedd testun y cynnig i gynhadledd ar y mater hwn fel a ganlyn
Cynnig 9. Toriadau i Ysgolion - Argyfwng Cyllido Addysg yng Nghymru
“Mae tanariannu addysg dros y 14 mlynedd diwethaf gan lywodraeth y DU wedi cael canlyniadau amlwg i fyfyrwyr a staff yng Nghymru. Mae addysg yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd iawn. Mewn gwirionedd, mae toriadau i gyllidebau addysg ledled y wlad.”
Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd NEU Cymru.
Mae Cynhadledd Cymru yn nodi:
- Bod argyfwng ariannu wedi bodoli mewn addysg yng Nghymru, ers blynyddoedd lawer.
- Nad oes digon o arian yn mynd i'r system addysg, ac amcangyfrifir bod disgyblion yng Nghymru yn derbyn hyd at £400 y flwyddyn yn llai na disgyblion yn Lloegr.
- Bod llawer o awdurdodau lleol ledled Cymru mewn trafferthion ariannol difrifol gyda nifer yn wynebu methdaliad.
- Bod NEU Cymru wedi gofyn i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB) gyfarwyddo llywodraeth Cymru i gefnogi codiad cyflog, uwchlaw chwyddiant, a ariennir yn llawn i athrawon ar gyfer 2025.
Mae Cynhadledd Cymru yn nodi ymhellach bod:
i. Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu i ryw raddau gan yr arian maen nhw'n ei dderbyn gan y llywodraeth yn San Steffan, gyda'r gyllideb yn cael ei hamcangyfrif yn £4 biliwn yn llai mewn termau real dros y tair blynedd nesaf.
ii. Y system a ddefnyddir gan lywodraeth Cymru i ariannu ysgolion a cholegau yn ddiffygiol iawn a bod hyn bellach wedi'i gydnabod gan y Grŵp baich gwaith cyllid strategol.
iii. Angen i lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle i ailwampio'r ffordd y mae arian yn cael ei rannu rhwng awdurdodau lleol ledled Cymru.
Mae Cynhadledd Cymru yn galw ar NEU Cymru drwy aelodau’r adran weithredol i:
a. Ail-lansio a hyrwyddo ymgyrch Toriadau i Ysgolion yng Nghymru.
b. Ail-lansio'r Ymgyrch Cyflogau os bydd llywodraeth Cymru yn cynnig llai nag awgrym NEU Cymru o ddyfarniad cyflog uwchlaw chwyddiant, wedi'i ariannu'n llawn yn 2025.
c. Gysylltu â'r holl randdeiliaid gan gynnwys rhieni, llywodraethwyr a disgyblion i sicrhau bod yr ymgyrch yn cael ei hail-lansio'n llwyddiannus.
ch. Ymgysylltu â phob prif blaid wleidyddol i'w hannog i bwyso ar lywodraeth y DU am fwy o gyllid i bob ysgol a choleg yng Nghymru.
d. Gydweithio â’r holl undebau addysg i gynyddu’r pwysau ar lywodraeth Cymru i flaenoriaethu addysg drwy sefydlu mecanwaith ariannu newydd sy’n deg ac yn dryloyw.
dd. Roi pwysau ar lywodraeth Cymru i gyfarwyddo awdurdodau lleol i glustnodi cyllid ysgolion i sicrhau ei fod yn cael ei wario ar addysg.