Sylw NEU Cymru ar Adroddiad Blynyddol Estyn

Read this in English
Published:

Wrth siarad am gyhoeddiad adroddiad blynyddol Estyn, dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Dros Dro Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru:

"Bydd aelodau NEU Cymru yn cydnabod llawer o'r heriau a amlygwyd gan Adroddiad Blynyddol Estyn heddiw. Ond nid o reidrwydd gyda'r camau gweithredu a awgrymwyd. Yn benodol, mae ein haelodau'n dweud wrthym fod presenoldeb disgyblion, gweithredu'r cwricwlwm a recriwtio a chadw athrawon i gyd yn faterion arwyddocaol, felly mae'n ddefnyddiol i Estyn dynnu sylw at y rhain.

"Mae NEU Cymru yn glir - mae angen mwy o gefnogaeth ar y sector addysg yng Nghymru, a rhaid i gyllid teg fod yn brif flaenoriaeth. Ni all ysgolion gefnogi plant a phobl ifanc heb gymorth gan wasanaethau eraill. Mae angen mynediad at Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHs), cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a dull ataliol o ymdrin ag ymddygiad ar bobl ifanc.

"Mae angen i'r arolygiaeth gydnabod yr argyfwng baich gwaith yn ein hysgolion yn llawn. Mae angen amser y tu allan i'r ystafell ddosbarth ar athrawon a staff cymorth i baratoi a chanolbwyntio ar ddysgu. Mae angen i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a staff cymorth gael mynediad at gyllid, hyfforddiant a chymorth priodol. Heb yr ymyriadau hyn, bydd y system addysg yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd.

"Mae'n bryd i Estyn gael cyfrifoldeb statudol i edrych ar lesiant staff."

Back to top