Mae aelodau Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru yn Ysgol Robert Owen yn y Drenewydd wedi gofyn i'w hundeb gynnal pleidlais dros weithredu diwydiannol yn dilyn cynigion ar gyfer diswyddiadau enfawr.
Agorodd Ysgol Robert Owen ar 1 Medi 2024, ar gost o £22m, ac eto o fewn misoedd mae staff wedi cael gwybod bod hyd at un o bob chwech ohonyn nhw'n wynebu diswyddiadau ac efallai na fydd y Pwll Hydro o'r radd flaenaf byth yn cael ei ddefnyddio.
Wrth siarad am y toriadau arfaethedig yn yr ysgol, dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Dros Dro Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru:
"Mae'n anghredadwy bod Cyngor Powys wedi gwario £22 miliwn o arian cyhoeddus ar ysgol newydd sydd ei hangen yn fawr ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, ond mae'n ymddangos nad ydyn nhw wedi gwneud eu gwaith cartref ar faint fydd hi'n ei gostio i'w rhedeg a'i staffio. Rydym yn synnu eu bod nhw hefyd wedi methu â llenwi'r holl leoedd yn yr ysgol er gwaethaf angen clir am ddarpariaeth arbenigol.
"Bydd y toriadau arfaethedig yn lleihau'r ysgol i gysgod o'r hyn a fwriadwyd yn ogystal â chreu amgylchedd sy'n anniogel yn ei hanfod i staff a disgyblion. Mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol a'n haelodau ill dau yn haeddu gwell. Mae'n amlwg y dylai'r Cyngor nawr nodi'r arian i redeg y cyfleuster newydd sbon hwn yn ddiogel ac i'w lawn botensial."