Mae trais yn erbyn staff ysgol yn broblem ledled Cymru

Read this in English
Published:

Mae gan NEU Cymru, undeb addysg mwyaf Cymru, bryderon ynghylch y cynnydd brawychus a digynsail mewn trais a cham-drin a gyfeirir at staff ysgolion dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n galw am fwy o ymwybyddiaeth o achosion sylfaenol y cynnydd hwn mewn trais sy'n cynnwys cyllid annigonol ar gyfer darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cefnogaeth iechyd meddwl annigonol, prinder staff, a diffyg darpariaeth a hyfforddiant amgen addas.

Mae NEU Cymru yn galw ar lywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol a darpariaeth iechyd meddwl mewn ysgolion, ac i sicrhau bod gan ysgolion fwy o fynediad at wasanaethau cymorth, mwy o gymorth i blant ag ADY a mwy o gymorth gan awdurdodau lleol.

Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru’r Undeb Addysg Cenedlaethol:

“Mae lefel y trais a'r ymddygiad difrïol yn erbyn ein haelodau yn broblem. Mae ein haelodau'n glir, o ran ymddygiad disgyblion, na all ysgolion fynd i'r afael â hyn ar eu pen eu hunain. Mae angen mynediad at wasanaethau cymorth arnynt; mwy o gymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol a mwy o gymorth gan awdurdodau lleol.

Rydym yn croesawu bod llywodraeth Cymru, ers yr Uwchgynhadledd Ymddygiad ym mis Mai, wedi cydnabod na all ysgolion ddatrys yr ystod o heriau y mae plant yn eu hwynebu ar eu pen eu hunain ac maent yn edrych i lunio polisi ymddygiad y dyfodol gyda ffocws allweddol ar lais ymarferwyr, dysgwyr a rhieni.

“Mae gan bob gweithiwr hawl i deimlo'n saff a diogel yn eu gweithle ac edrychwn ymlaen at weithio gyda llywodraeth Cymru yn eu dull partneriaeth o fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad mewn ysgolion a cholegau.”

Roedd testun y cynnig i gynhadledd ar y mater hwn fel a ganlyn

Cynnig 22. Trais yn Erbyn Staff Ysgol

Mae Cynhadledd Cymru yn cydnabod y pryderon cynyddol ynghylch ymddygiad disgyblion mewn ysgolion ledled Cymru. Er bod ymddygiad wedi peri heriau i addysgwyr erioed, mae'r blynyddoedd diwethaf wedi gweld cynnydd brawychus a digynsail mewn trais a cham-drin yn erbyn staff ysgolion.

Yn draddodiadol, mae ymgysylltiad rhieni wedi bod yn rym cadarnhaol mewn addysg. Mae Cynhadledd Cymru yn croesawu cefnogaeth a chyfranogiad rhieni yn addysg eu plant. Fodd bynnag, mae ffiniau aneglur ynghylch yr ymgysylltiad hwn, mewn llawer o achosion, wedi gwaethygu'r sefyllfa.

Mae angen brys am sancsiynau priodol a pholisïau clir i sicrhau bod cefnogaeth rhieni yn cyd-fynd ag anghenion ac awdurdod ysgolion. Mewn gormod o achosion, mae athrawon yn destun camau disgyblu annheg mewn ymdrechion i dawelu cwynion rhieni, gan danseilio lles staff ac awdurdod yr ysgol.

Dywedodd llefarydd o’r Adran Addysg: “Dylai pob disgybl ac aelod o staff deimlo’n saff ac yn ddiogel yn yr ysgol ac ni ddylent byth wynebu trais na cham-drin.” Yn anffodus, nid dyma’r realiti ar lawr gwlad, ac mae’r sefyllfa’n parhau i waethygu.

Yng nghynhadledd flynyddol yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) yn Harrogate, cafodd cynnig ei basio yn mynd i'r afael â thrais mewn ysgolion. Rhybuddiodd am argyfwng cynyddol, gyda rhai disgyblion yn arddangos ymddygiad sy'n peri perygl gwirioneddol i staff.

Mae Cynhadledd Cymru yn galw am fwy o ymwybyddiaeth o achosion sylfaenol y cynnydd hwn mewn trais. Mae'r rhain yn cynnwys cyllid annigonol ar gyfer darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cefnogaeth iechyd meddwl annigonol, prinder staff, a diffyg darpariaeth a hyfforddiant amgen addas.

Yn ogystal â'r cynnydd mewn cam-drin corfforol a geiriol yn erbyn staff, mae ysgolion hefyd yn wynebu heriau ymddygiadol cynyddol sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol. Mae gorddefnydd o ffonau symudol wedi'i gysylltu â mwy o bryder, llai o ganolbwyntio, aflonyddwch ar gwsg, ac effeithiau negyddol ar ddiwylliant yr ysgol. Mae diffyg polisi cyson, Cymru gyfan ar ddefnyddio ffonau symudol yn gadael staff yn agored i niwed ac yn tanseilio ymdrechion i hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel a pharchus. Er bod llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn caniatáu i benaethiaid unigol benderfynu ar bolisïau ffonau symudol, mae'r Undeb Addysg Cenedlaethol bellach yn cefnogi cael sgwrs cenedlaethol ar wahardd defnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Byddai gwaharddiad o'r fath, wedi'i gefnogi gan ganllawiau cenedlaethol clir ac addysg llythrennedd digidol wedi'i fewnblannu, yn helpu i leihau gwrthdyniad, gwella lles disgyblion, ac adfer awdurdod i staff yr ysgol.

Mae Cynhadledd Cymru felly yn galw ar NEU Cymru drwy aelodau’r adran weithredol i:

  1. Ymgyrchu dros strategaeth genedlaethol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn staff ysgolion.
  2. Lobïo llywodraeth Cymru am fwy o gyllid ar gyfer ADY a darpariaeth iechyd meddwl mewn ysgolion.
  3. Gefnogi ysgolion i ddatblygu polisïau ymddygiad clir a chyson sy'n diogelu lles staff.
  4. Annog ysgolion i fwrw ymlaen i bleidleisio a chymryd camau streic, os oes angen, lle mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn araf i fynd i'r afael â phroblem ymddygiad.
  5. Gefnogi lleoliadau addysgol i ddatblygu ffordd gyson o gofnodi ac adrodd am ymosodiadau geiriol, corfforol a rhywiol.
Back to top