Mae NEU Cymru yn ystyried cynnig cyflog athrawon

Read this in English
Published:

Heddiw (10 Mehefin) mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o 4% i athrawon. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw'n derbyn y codiad cyflog o 4.8% a argymhellwyd gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB).

Wrth siarad am gynnig Llywodraeth Cymru, dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Dros Dro Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru:

"Bydd NEU Cymru yn defnyddio'r cyfle hwn i ymgynghori â'n haelodau ar gynnig Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwybod bod cyllido'r cynnig yn llinell goch i'n haelodau, ac mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru wedi ein sicrhau y bydd y cynnydd yn cael ei ariannu a bod rhaid i hyn fod yn wir i bob awdurdod lleol ledled Cymru. Ni allwn bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi fod cost wirioneddol y codiad cyflog yn cyrraedd pob ysgol yng Nghymru.

"Ni fydd NEU Cymru byth yn derbyn toriadau i addysg. Mae plant yn haeddu addysg â'r adnoddau llawn a dylai'r llywodraeth weld addysg fel buddsoddiad yn nyfodol Cymru, nid cost.

"Mae athrawon ac arweinwyr ysgolion yn gwybod nad oes unrhyw 'effeithlonrwydd' i'w gwneud ar lefel ysgol, felly mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i fod yn ‘ymwybodol o'r effaith bosibl y gallai codiadau cyflog heb eu hariannu ei chael ar niferoedd a baich gwaith athrawon’."

Ychwanegodd Nicola Fitzpatrick:

"Mae'r cynnig 0.8% yn llai nag argymhelliad y corff adolygu a bydd yn fater i'n haelodau benderfynu a yw hynny'n dderbyniol iddynt. Pa bynnag benderfyniad a wnânt, mae NEU Cymru yn glir nad dyma'r cywiriad cyflog sy'n angenrheidiol os ydym am unioni toriadau hanesyddol a sicrhau ein bod yn recriwtio ac yn cadw'r staff cymwys sydd eu hangen arnom.

"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiadau eraill heddiw, gan y bydd Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol yn falch o weld eu bod yn mynd i gael codiad cyflog wrth iddynt symud i'r grŵp cyflog arweinyddiaeth, a bod y rhwystr yn cael ei ddileu i sicrhau symud awtomatig i athrawon i'r Uwch Raddfa Gyflog. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y rhain, a materion allweddol eraill, fel y twyll asiantaeth athrawon cyflenwi.

"Edrychwn ymlaen at weld y manylion llawn a byddwn yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am farn ein haelodau mewn ymateb i'r ymgynghoriad."

Back to top