Mae NEU Cymru, undeb addysg mwyaf Cymru, yn pryderu bod staff anabl yn parhau i wynebu rhwystrau systemig a gwahaniaethu ar draws y sector addysg yng Nghymru gyda chyflyrau iechyd meddwl, niwroamrywiaeth ac anableddau anweledig yn aml yn cael eu camddeall neu eu diystyru, gan waethygu gwaharddiad.
Mae NEU Cymru yn galw ar lywodraeth Cymru i gryfhau mesurau atebolrwydd ar gyfer gwahaniaethu ar sail anabledd mewn lleoliadau addysg, sicrhau bod dyletswyddau cyfreithiol presennol yn cael eu gorfodi a darparu hyfforddiant cydraddoldeb anabledd gorfodol i bob arweinydd ysgol a choleg yng Nghymru, gyda ffocws penodol ar ddyletswyddau cyfreithiol ynghylch addasiadau rhesymol.
Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru’r Undeb Addysg Cenedlaethol:
“Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr a sefydliadau i wneud addasiadau rhesymol, ond eto mae llawer o weithwyr anabl yn nodi cefnogaeth annigonol, gweithleoedd anhygyrch, ac agweddau negyddol gan gydweithwyr a rheolwyr.
“Mae rhai arweinwyr ysgol a cholegau yn parhau i wrthod cydnabod neu weithredu eu cyfrifoldeb i ddarparu addasiadau rhesymol, gyda llawer o weithwyr proffesiynol anabl yn gadael y sector oherwydd diffyg cefnogaeth.
“Mae cydraddoldeb i bobl anabl yn hanfodol, a dylai lleoliadau addysg arwain trwy esiampl wrth greu amgylcheddau cynhwysol lle mae staff, a myfyrwyr, anabl yn cael eu grymuso a'u cefnogi.”
Roedd testun y cynnig i gynhadledd ar y mater hwn fel a ganlyn
Cynnig 15. Mynd i'r Afael â Gwahaniaethu ar sail Anabledd mewn Addysg
Mae Cynhadledd Cymru yn nodi bod:
- Staff a myfyrwyr anabl yn parhau i wynebu rhwystrau systemig a gwahaniaethu ar draws y sector addysg yng Nghymru.
- 2. Y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr a sefydliadau i wneud addasiadau rhesymol, ond eto mae llawer o weithwyr anabl yn nodi cefnogaeth annigonol, gweithleoedd anhygyrch, ac agweddau negyddol gan gydweithwyr a rheolwyr.
- Rhai arweinwyr ysgol a cholegau yn parhau i wrthod cydnabod neu weithredu eu cyfrifoldeb i ddarparu addasiadau rhesymol, gan adael staff anabl mewn trallod neu’n cael eu gorfodi i adael y proffesiwn.
- Yn aml, mae cyflyrau iechyd meddwl, niwroamrywiaeth ac anableddau anweledig yn cael eu camddeall neu eu diystyru, gan waethygu eithrio.
- Bwlch cyflogaeth sylweddol o hyd o fewn y gweithlu addysg o ran anabledd, gyda llawer o weithwyr proffesiynol anabl yn gadael y sector oherwydd diffyg cefnogaeth.
- Myfyrwyr anabl yn wynebu rhwystrau ychwanegol i lwyddiant academaidd, gan gynnwys diffyg darpariaeth wedi'i theilwra, adeiladau anhygyrch, a hyfforddiant annigonol i staff.
- Yr NEU wedi datblygu Pecyn Cymorth Cydraddoldeb i Bobl Anabl i gefnogi cynrychiolwyr ac arweinwyr i adeiladu amgylcheddau cynhwysol a herio gwahaniaethu.
Cred Cynhadledd Cymru:
i. Bod cydraddoldeb anabledd yn fater i undebau llafur ac yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.
ii. Bod rhaid i brofiad byw aelodau anabl fod yn ganolog i lunio polisïau ac ymgyrchoedd ein hundeb.
iii. Y dylai lleoliadau addysg arwain trwy esiampl wrth greu amgylcheddau cynhwysol lle mae staff a myfyrwyr anabl yn cael eu grymuso a'u cefnogi.
iv. Y dylai'r model cymdeithasol o anabledd sy'n cydnabod bod pobl yn cael eu hanablu gan rwystrau yn y gymdeithas, nid gan eu nam, fod yn sail i bob polisi undeb, arferion cyflogwyr, a dulliau'r llywodraeth o ran cynhwysiant.
Mae Cynhadledd Cymru yn cyfarwyddo NEU Cymru drwy aelodau’r adran weithredol i:
a. Lansio ymgyrch yng Nghymru ar hawliau anabledd mewn addysg, gan ganolbwyntio ar addasiadau yn y gweithle, hyfforddiant ymwybyddiaeth, a rhoi terfyn ar stigma.
b. Gomisiynu ymchwil i brofiadau staff addysg anabl yng Nghymru, gydag argymhellion clir i gyflogwyr a llywodraeth Cymru.
c. Lobïo dros hyfforddiant cydraddoldeb anabledd gorfodol i bob arweinydd ysgol a choleg yng Nghymru, gyda ffocws penodol ar ddyletswyddau cyfreithiol ynghylch addasiadau rhesymol.
ch. Herio arweinwyr ysgol a cholegau sy'n methu â chyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, a chefnogi aelodau i sicrhau'r addasiadau y mae ganddynt hawl iddynt.
d. Weithio gydag aelodau anabl i ddatblygu polisi enghreifftiol o addasiadau rhesymol i'w fabwysiadu ym mhob sefydliad addysgol.
dd. Hyrwyddo sefydlu Rhwydweithiau Aelodau Anabl Cymru ym mhob ardal a sicrhau cynrychiolaeth ar bob pwyllgor perthnasol.
e. Alw ar lywodraeth Cymru i gryfhau mesurau atebolrwydd ar gyfer gwahaniaethu ar sail anabledd mewn lleoliadau addysg a sicrhau bod dyletswyddau cyfreithiol presennol yn cael eu gorfodi.
f. Hyrwyddo mabwysiadu Pecyn Cymorth Cydraddoldeb Anabledd yr NEU a’r polisi enghreifftiol ym mhob ysgol a choleg, a chefnogi cynrychiolwyr i’w ddefnyddio wrth drefnu ar gyfer arfer cynhwysol.
ff. Sicrhau bod holl gyfathrebiadau, digwyddiadau ac adnoddau'r undeb yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo model cymdeithasol o anabledd.
g. Annog aelodau anabl i hunan-nodi drwy wefan yr NEU fel y gall yr undeb gynrychioli, cefnogi a chysylltu aelodau anabl yn well ledled Cymru ac yn genedlaethol.