Canfu arolwg diweddar o aelodau NEU Cymru fod 87% wedi nodi bod problem gydag ymddygiad disgyblion a'r ffordd y mae'r ymddygiad hwnnw'n cael ei drin mewn ysgolion yng Nghymru.
Yn siarad cyn y ddadl yn y Senedd ar ymddygiad disgyblion heddiw, dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Dros Dro Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru:
"Mae diffyg cyllid yn fater allweddol yma. Mae ein haelodau’n glir iawn, o ran ymddygiad disgyblion, na all ysgolion fynd i’r afael â hyn ar eu pen eu hunain. Mae angen mynediad at wasanaethau cymorth arnynt, mwy o gymorth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a mwy o gymorth gan awdurdodau lleol.
"Rydym yn croesawu bod y Senedd yn cael y ddadl hon heddiw, ond mae’n drist ei bod wedi cymryd digwyddiad mor uchel ei broffil i ddod ag ymddygiad i frig yr agenda gwleidyddol yng Nghymru.
"Rydym yn croesawu bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod na all ysgolion ddatrys yr ystod o heriau y mae plant yn eu hwynebu ar eu pen eu hunain. Ond mae’n amlwg y bydd cyllid yn allweddol i helpu ysgolion gyda hyn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y mater hollbwysig hwn a rhannu pryderon ac anghenion ein haelodau gyda nhw yn yr Uwchgynhadledd Ymddygiad sydd i ddod."