Athro cymwys o flaen pob dosbarth

Read this in English
Published:

Mae gan NEU Cymru, undeb addysg mwyaf Cymru, bryderon ynghylch y defnydd parhaus a chynyddol o gynorthwywyr addysgu, gan gynnwys Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (CALU) a goruchwylwyr cyflenwi sy'n cael eu defnyddio i addysgu dosbarthiadau yn y tymor hir a'r tymor byr. Mae Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru yn deall bod llawer o ysgolion yn defnyddio pobl heb Statws Athro Cymwys (SAC) i addysgu dosbarthiadau

Mae NEU Cymru yn galw ar lywodraeth Cymru i atgoffa ysgolion ac awdurdodau lleol mai dim ond athrawon cymwys y dylid eu defnyddio i addysgu, ac eithrio achosion o absenoldeb brys tymor byr.

Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru’r Undeb Addysg Cenedlaethol:

“Ni ddylai ysgolion yng Nghymru fod yn defnyddio athrawon digymwys, nid yw'n deg ar y plant a'r bobl ifanc ac nid yw'n deg ar y gweithwyr addysg proffesiynol, y gofynnir iddynt addysgu gwers heb yr hyfforddiant na'r tâl priodol.

“Tra bod staff cymorth yn gwneud cyfraniadau hanfodol, mae eu defnydd fel eilyddion ar gyfer athrawon cymwys yn aml heb hyfforddiant, cyflog na chydnabyddiaeth broffesiynol briodol, ac mae'n cael ei yrru gan heriau recriwtio a chadw systemig.

“Mae gan Benaethiaid a chyrff llywodraethu cyfrifoldeb clir i sicrhau nad yw staff cymorth yn cael eu hecsbloetio. Mae defnyddio athrawon cymwys yn ein hysgolion yn hollbwysig i'n haelodau. Rydym am i blant a phobl ifanc gael mynediad at yr addysg orau, a ddarperir gan athrawon cymwys a'u chefnogi gan staff cymorth sydd wedi'u hyfforddi'n dda.

 

Roedd testun y cynnig i gynhadledd ar y mater hwn fel a ganlyn

Cynnig 23. Defnyddio Staff Addysgu heb Gymhwyster mewn Ystafelloedd Dosbarth yng Nghymru

Mae Cynhadledd Cymru yn nodi â phryder bod ysgolion ledled Cymru, oherwydd pwysau ariannol parhaus, yn dibynnu fwyfwy ar unigolion nad ydynt yn athrawon cymwys i gyflenwi mewn gwersi pan nad oes staff addysgu rheolaidd ar gael. Gall yr unigolion hyn gynnwys goruchwylwyr cyflenwi neu gynorthwywyr addysgu, sydd, er eu bod yn aelodau gwerthfawr o weithlu'r ysgol, heb y cymwysterau angenrheidiol mewn addysgeg, gwybodaeth am bynciau, na rheolaeth ystafell ddosbarth i gynnal y safonau uchel y mae ein plant yn eu haeddu.

Cred Cynhadledd Cymru bod yr arfer hwn yn gwneud cam â disgyblion yng Nghymru. Gall defnyddio staff heb gymwysterau i gyflwyno gwersi arwain at:

1.      Dirywiad mewn safonau academaidd oherwydd diffyg arbenigedd pwnc.

2.      Gynnydd mewn problemau ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth.

3.      Ddiwylliant annheg o feio’r holl staff cyflenwi, gan gynnwys athrawon cymwys.

Cred Cynhadledd Cymru ymhellach bod y duedd hon yn peryglu tanseilio'r proffesiwn, ac yn bwysicach fyth, addysg a chyfleoedd bywyd pobl ifanc yng Nghymru.

Mae Cynhadledd Cymru felly’n cyfarwyddo NEU Cymru drwy aelodau’r adran weithredol i:

i.       Lobïo llywodraeth Cymru i atgoffa ysgolion ac awdurdodau lleol mai dim ond athrawon cymwys y dylid eu defnyddio i addysgu, ac eithrio achosion o absenoldeb brys tymor byr.

ii.      Eirioli dros ganllawiau clir y dylid defnyddio goruchwylwyr cyflenwi dim ond mewn achosion o absenoldeb athrawon tymor byr, annisgwyl.

iii.      Alw am gyllid priodol a chynllunio gweithlu strategol i sicrhau bod athrawon cyflenwi cymwys ar gael ac yn cael eu gwerthfawrogi o fewn system addysg Cymru.

Back to top