Mae 73% o athrawon sy’n aelodau o’r NEU yng Nghymru, a ymatebodd i ymgynghoriad yr undeb, wedi pleidleisio i DDERBYN y cynnig cyflog a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, a dod â’r anghydfod i ben.
Bydd y cynnig a gyflwynwyd gan y Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles yn gweld taliad ychwanegol o 3% i athrawon ar gyfer y flwyddyn academaidd hon (2022/23), sef dyfarniad cyfunol o 1.5% a chyfandaliad anghyfunol o 1.5%. Roedd y cynnig hefyd yn cynnwys codiad cyflog uwch o 5% yn daladwy o fis Medi 2023. Mae’r Gweinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd y cyfan yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Wrth siarad am benderfyniad yr aelodau, dywedodd Kevin Courtney, Cyd-ysgrifennydd Cyffredinol yr NEU:
“Mae’r aelodau yng Nghymru wedi gwneud penderfyniad clir i dderbyn y cynnig cyflog a gyflwynwyd gan y Gweinidog mewn llythyr dyddiedig 9 Mawrth.
“Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am y ffordd adeiladol y maent wedi cynnal trafodaethau gyda’r undeb, ac edrychwn ymlaen at berthynas waith cynhyrchiol i sicrhau bod gweddill y cynnig, sy’n canolbwyntio ar faich gwaith, yn parhau i wneud cynnydd da.
“Er nad yw hyn yn cwrdd â’n huchelgeisiau ar gyfer ad-daliad cyflog mae pob rhan o’r cynnig hwn o ganlyniad i ymdrechion ein haelodau – a byddwn yn parhau i ymgyrchu i Lywodraethau Caerdydd a San Steffan fuddsoddi’n iawn yn y genhedlaeth hon o blant a’r staff sy’n gweithio gyda nhw.”
Dywedodd David Evans, Ysgrifennydd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru:
“Mae’n amlwg bod mwyafrif helaeth o’n haelodau sy’n athrawon yma yng Nghymru am dderbyn y cynnig gan y Gweinidog. Cawsant wybodaeth lawn am y cynnig ac maent wedi rhoi arweiniad pendant inni.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb ym myd addysg. Nid yw ein haelodau yn gwneud penderfyniadau i fynd ar streic yn ysgafn, ond bu’n rhaid iddynt wneud safiad o ystyried effaith barhaus llymder, costau byw a chwyddiant cynyddol.
Hoffem ddiolch i’r holl rieni a gefnogodd yr athrawon a’r staff cymorth yn y camau a gymerwyd.
“Rydym dal yn siomedig na wnaeth y Gweinidog unrhyw gynnig i staff cymorth, ond gwyddom ein bod wedi codi proffil y materion hollbwysig sy’n effeithio ar bawb ym myd addysg. Bydd ein Hadran Weithredol Genedlaethol yn ystyried y camau nesaf yn ein hymgyrch cyflog ar gyfer staff cymorth.”