Athrawon cyflenwi yn gofyn am fynediad cyfartal i delerau ac amodau

Read this in English
Published:

Mae NEU Cymru, undeb addysg mwyaf Cymru, yn galw ar lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gyllid yn cael ei adfer i awdurdodau lleol ac ysgolion fel bod yr holl staff cyflenwi yn cael eu talu yn unol â thelerau ac amodau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ac mae eisiau i lywodraeth Cymru hyrwyddo manteision ail-greu pyllau cyflenwi lleol i awdurdodau lleol.

Mae hefyd eisiau atal y defnydd cynyddol o staff cymorth digymwys sy'n cael eu defnyddio i gyflwyno gwersi a chymryd cyfrifoldebau addysgu dros gydweithwyr absennol mewn sefydliadau addysgol ledled Cymru.

Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru’r Undeb Addysg Cenedlaethol:

“Mae ein haelodau’n glir bod athrawon cyflenwi yn darparu dilyniant hanfodol pan fo athro yn absennol ac y dylid eu gwobrwyo ochr yn ochr â’u cyfoedion o ran telerau ac amodau, gan gynnwys cynllun pensiwn athrawon – maent yn gweithio’n galed i addysgu plant, yn aml ar fyr rybudd, gydag ychydig iawn o amser i baratoi.

“Mae llywodraeth Cymru wedi cydnabod rôl hanfodol athrawon cyflenwi, ond eto mae'r system bresennol yn aneffeithlon, yn annheg, ac nid yw'n gwasanaethu buddiannau gorau disgyblion, ysgolion, na'r proffesiwn addysgu yn gyffredinol.

“Rhaid i lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i flaenoriaethu recriwtio, cadw, cyflog teg, a rheoli baich gwaith ar gyfer athrawon cymwys, gan gynnwys athrawon cyflenwi, er mwyn rhoi’r gorau i ddibynnu ar staff digymwys.

“Byddwn yn parhau i godi'r materion hollbwysig hyn gyda llywodraeth Cymru.”

Roedd testun y cynnig i gynhadledd ar y mater hwn fel a ganlyn

Cynnig 7.  Cyflog ac Amodau Teg i Athrawon Cyflenwi yng Nghymru

Mae Cynhadledd Cymru yn nodi, gyda siom, bo llywodraeth Cymru wedi rhoi’r gorau i’w gwaith ar y Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru.

Ers dros saith mlynedd, mae'r materion sy'n effeithio ar athrawon cyflenwi yng Nghymru wedi cael eu codi dro ar ôl tro, ond ychydig iawn o gynnydd ystyrlon sydd wedi'i wneud. Mae athrawon cyflenwi yn parhau i wynebu anfantais systemig oherwydd allanoli darpariaeth gyflenwi i asiantaethau preifat. Mae'r materion y maent yn eu hwynebu yn cynnwys:

 

1.      Cael eu talu llai na'u cydweithwyr parhaol, yn aml wedi'u capio i bwynt 1 ar yr Uwch Raddfa Gyflog (URG), waeth beth fo'u profiad neu flynyddoedd o wasanaeth.

2.      Dim mynediad i Gynllun Pensiwn Athrawon (TPS) i athrawon cyflenwi a gyflogir drwy asiantaethau.

3.      Mae defnyddio asiantaethau yn arwain at ddiffyg tryloywder, gydag awdurdodau lleol yn methu olrhain pwy sy'n gweithio ble a phryd.

4.      Yn aml, dim ond hyd at 39 wythnos o'r flwyddyn y caiff athrawon cyflenwi eu talu, gyda'r cyflog hwnnw'n cael ei rannu dros 52 wythnos, waeth beth fo'u hargaeledd neu'r gwaith a wneir.

5.      Mae llawer o athrawon cyflenwi yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith cyson oherwydd bod ysgolion wedi'u cloi i gontractau gydag asiantaethau penodol, gan gyfyngu ar ddewis ac o bosibl eithrio gweithwyr proffesiynol profiadol iawn.

6.      Mae llywodraeth Cymru wedi cydnabod rôl hanfodol athrawon cyflenwi, ond eto mae'r system ‘Teacher Booker' a ddisgwyliwyd yn eiddgar amdani wedi chwalu, gan adael bwlch mewn cefnogaeth deg.

7.      Mae’r system bresennol yn aneffeithlon, yn annheg, ac nid yw'n gwasanaethu buddiannau gorau disgyblion, ysgolion, na'r proffesiwn addysgu yn gyffredinol.

8.      Y defnydd cynyddol o staff heb gymwysterau, gan gynnwys Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (HLTAs), goruchwylwyr cyflenwi, a gweithwyr cefnogi dysgu, i gyflwyno gwersi a chymryd cyfrifoldebau addysgu mewn lleoliadau cynradd, uwchradd ac ADY ledled Cymru.

9.      Er bod y staff cymorth hyn yn gwneud cyfraniadau hanfodol, mae eu defnydd fel eilyddion ar gyfer athrawon cymwys yn aml heb hyfforddiant, cyflog na chydnabyddiaeth broffesiynol briodol, wedi'i yrru gan heriau recriwtio a chadw systemig.

10.    Yr angen brys am fuddsoddiad mewn recriwtio, cadw, lleihau llwyth gwaith, a chyflog teg i sicrhau bod addysgu yn parhau i fod yn broffesiwn arbennig a pharchus yng Nghymru.

Cred Cynhadledd Cymru bod:

i.       Athrawon cyflenwi yn haeddu cyflog cyfartal am waith cyfartal, gyda chydnabyddiaeth am brofiad a chymwysterau.

ii.      Y system asiantaeth bresennol yn cyfyngu'n annheg ar fynediad at waith ac yn lleihau cyflog net drwy ffioedd asiantaeth.

iii.      Gan yr NEU gyfrifoldeb i gynrychioli pob aelod yn gyfartal, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio fel athrawon cyflenwi.

iv.      Dilyniant addysg disgyblion yn cael ei gefnogi orau pan all ysgolion ddewis yr athro mwyaf priodol ar gyfer pob sefyllfa, nid dim ond y rhai sydd ar gael trwy asiantaeth dan gytundeb.

v.       Cefnogi athrawon cyflenwi yn deg, a sicrhau mynediad at gyflog, pensiwn ac amodau priodol yn hanfodol i wrthweithio'r pwysau sy'n arwain at fwy o ddibyniaeth ar staff heb gymwysterau.

Mae Cynhadledd Cymru yn galw ar NEU Cymru drwy aelodau’r adran weithredol i:

a.      Lobïo llywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gyllid yn cael ei adfer i awdurdodau lleol ac ysgolion fel bod yr holl staff cyflenwi yn cael eu talu yn unol â thelerau ac amodau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, a thrwy hynny fynd i'r afael â'r defnydd o staff heb gymwysterau.

b.      Agor trafodaethau ar frys gydag awdurdodau lleol (ALlau) Cymru gyda'r bwriad o ganiatáu i ysgolion ddod o hyd i athrawon cyflenwi yn uniongyrchol, gan osgoi asiantaethau lle bo'n briodol.

c.       Lobïo llywodraeth Cymru i hyrwyddo manteision ail-greu pyllau cyflenwi lleol i awdurdodau lleol.

ch.     Ymgyrchu dros ddychwelyd i bwll cyflenwi neu system archebu a reolir yn gyhoeddus sy'n sicrhau cyflog teg, hawliau pensiwn, a llwybrau cyflogaeth diogel i athrawon cyflenwi.

d.      Weithio gyda llywodraeth Cymru i sicrhau bod casglu data yn gwella a bod tryloywder yn y ffordd y caiff athrawon cyflenwi eu defnyddio ledled y wlad.

dd.    Hyrwyddo'r egwyddor y dylai pob athro, waeth beth fo'u math o gytundeb, gael mynediad at fanteision llawn cynrychiolaeth undeb, cyflog teg, a hawliau pensiwn.

e.      Lobïo dros ddeddfwriaeth neu bolisi llywodraeth sy'n cyfyngu neu'n rheoleiddio rôl asiantaethau cyflenwi i sicrhau bod y rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer swydd gyflenwi yn mynd yn uniongyrchol i'r athro sy'n darparu'r addysg.

f.       Ymgyrchu’n egnïol yn erbyn defnyddio staff digymwys yn rheolaidd neu’n hirdymor ar gyfer dyletswyddau addysgu a herio unrhyw symudiad tuag at sefydliadu’r arfer hwn.

ff.      Ymchwilio ac adrodd ar effaith staff digymwys yn cael eu defnyddio i addysgu yng Nghymru, ochr yn ochr â phroblemau y mae athrawon cyflenwi yn eu hwynebu, er mwyn rhoi darlun llawn o heriau'r gweithlu.

Back to top