Aelodau NEU Cymru yn Ysgol Uwchradd y Fflint yn parhau i streicio oherwydd bwlio yn y gweithle a methiannau i fynd i'r afael ag ymddygiad disgyblion

Read this in English
Published:

Bydd aelodau’r NEU yn Ysgol Uwchradd y Fflint yn streicio am ddau ddiwrnod ddydd Mercher 17 a dydd Iau 18 Medi oherwydd methiant parhaus y cyflogwr i ddelio ag ymddygiad bwlio gan y Pennaeth ac anallu arweinyddiaeth yr ysgol i fynd i'r afael â lefelau uchel o broblemau ymddygiad.

Ers i'r streic gael ei chynnal yr wythnos diwethaf, nid yw'r cyflogwr wedi gwneud unrhyw ymdrech i ymgysylltu â'r undeb i ddatrys y problemau hyn.

Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru:

"Mae ein haelodau yn Ysgol Uwchradd y Fflint yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond parhau a’u gweithredu diwydiannol. Roedd yn ysbrydoledig bod ar biced gyda'n haelodau yr wythnos diwethaf. Dangoson nhw ddewrder a phenderfyniad i amddiffyn urddas yn y gweithle ac amgylchedd diogel i staff ac i ddysgwyr.

"Dylai'r camau gweithredu ddydd Mercher a dydd Iau ddangos i'r cyflogwr ein bod o ddifrif ynglŷn â gorfodi ein hawliau i weithle diogel i bawb. Mae angen i lywodraethwyr Ysgol Uwchradd y Fflint a Chyngor Sir y Fflint ymgysylltu â ni a chymryd y camau angenrheidiol i ddod â'r anghydfod hwn i ben.

Dywedodd Liz McLean, Aelod Gweithredol yr NEU dros Gymru:

"Mae aelodau'r NEU yn Ysgol Uwchradd y Fflint eisoes wedi ysbrydoli aelodau eraill mewn gweithleoedd eraill ledled Gogledd Cymru. Maent yn enghraifft o egwyddorion undebaeth llafur, maent wedi sefyll gyda'i gilydd mewn undod ac wedi dweud yn glir ac yn gyhoeddus na fyddant yn cael eu bwlio a'u hatal rhag gwneud eu gwaith yn iawn mwyach.

"Fel y dywedodd Barack Obama, ‘Ni ddaw newid os ydym yn aros am ryw berson arall neu ryw amser arall. Ni yw'r rhai yr ydym wedi bod yn aros amdanynt. Ni yw'r newid yr ydym yn ei geisio’. Mae'r mudiad undebau ehangach y tu ôl iddynt i sicrhau'r newid y maent yn ei geisio."

Back to top