Aelodau NEU Cymru yn Ysgol Uwchradd y Fflint i streicio oherwydd bwlio yn y gweithle a methiannau i fynd i'r afael ag ymddygiad disgyblion

Read this in English
Published:

Bydd aelodau’r NEU yn Ysgol Uwchradd y Fflint yn streicio ddydd Mercher 10 Medi yn dilyn pryderon gan staff ynghylch methiant y cyflogwr i ddelio ag ymddygiad bwlio gan y Pennaeth ac anallu arweinyddiaeth yr ysgol i fynd i’r afael â lefelau uchel o broblemau ymddygiad.

Er bod trafodaethau wedi bod rhwng yr ysgol a'r NEU, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bu cynnydd cyfyngedig wrth weithredu unrhyw strategaethau effeithiol i fynd i'r afael â phryderon aelodau'r NEU. Mae aelodau'n teimlo bod iechyd, diogelwch a lles y staff a'r disgyblion yn parhau i gael eu peryglu.

Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru:

"Mae ein haelodau yn Ysgol Uwchradd y Fflint yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond gweithredu yn ddiwydiannol. Nid oes neb yn cymryd y penderfyniad i fynd allan ar streic yn ysgafn, ond drwy ddewis streicio, mae ein haelodau yn anfon neges glir i'r ysgol na fyddant yn goddef bygythiadau i'w hiechyd, eu diogelwch a'u lles eu hunain na'r disgyblion, a'u bod yn haeddu urddas yn y gweithle.

"Mae’r cyflogwr yn methu â delio â’r bwlio yn y gweithle ac ymddygiad y disgyblion ac mae hyn yn cael effaith andwyol ar ddysgu.

"Dros gyfnod o bron i ddwy flynedd mae aelodau wedi sefyll gyda’i gilydd ac yn dangos lefel o undod cyfunol a ddylai ysbrydoli pob gweithiwr i fynnu urddas yn eu gweithle. Mae aelodau sy’n streicio heddiw yn gwneud hynny gyda chefnogaeth lawn yr undeb ehangach, yr undeb llafur addysg mwyaf yn Ewrop.

"Ni all athrawon addysgu, ac ni all disgyblion ddysgu mewn amgylchedd lle mae’r lefel hon o aflonyddwch, a bydd ein haelodau’n parhau i weithredu nes bod y materion hyn wedi cael eu trin yn briodol."

Ychwanegodd Cheryl Latham, Ysgrifennydd Cangen NEU Sir y Fflint:

"Roeddem wedi ein dychryn gan yr ymddygiad bwlio y dywedodd yr aelodau wrthym amdano pan gyfarfuom â nhw gyntaf. Fe wnaethom gynghori aelodau fod yn rhaid iddynt sefyll drostynt eu hunain, ac maent wedi gwneud hynny gyda dewrder rhyfeddol.

"Rwy’n gwybod y bydd aelodaeth ehangach yr NEU yn eu cefnogi yn eu hymgais am gyfiawnder yn y gweithle."

Back to top