Cover image

Wrthi’n dechrau addysgu?

Mae'r canllaw hwn yn y Gymraeg a Saesneg wedi'i anelu at unrhyw un yng Nghymru sy'n gweithio tuag at SAC (Statws Athro Cymwys), p'un a ydych chi’n hyfforddi mewn ysgol neu trwy brifysgol.

Read this in English
Published:
Lawrlwytho

1. Beth yw’r NEU?

Yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) yw’r undeb addysg mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n cynrychioli pawb sy’n gweithio yn y byd addysg, gan gynnwys athrawon dan hyfforddiant, athrawon newydd gymhwyso, athrawon, darlithwyr, staff cymorth ac arweinwyr ysgolion, a hynny mewn ysgolion a gynhelir, ysgolion annibynnol a cholegau ledled y Deyrnas Unedig.

Mae ein maint yn rhoi cryfder inni, a hynny’n ein helpu i ennill buddugoliaethau sy’n gwella amodau gweithio ein haelodau.

2. Pam ddylwn i ymuno â’r NEU?

Bydd yr NEU yn eich cynrychioli chi yn y gweithle

Mae ein rhwydwaith o gynrychiolwyr gweithle yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud fel undeb. Gwaith eich cynrychiolydd yw eich cynrychioli chi a’ch cydweithwyr yn y gweithle, a rhoi cefnogaeth a chyngor ynghylch y materion sydd bwysicaf i chi. Mae ganyr NEU gynrychiolwyr mewn ysgolion a cholegau ledled y wlad, a’r rheini’n codi llais dros aelodau fel chi.

Un o brif ddibenion undeb llafur yw cydfargeinio. Mae hynny’n golygu y bydd yr undeb yn trafod â chyflogwyr ar ran yr aelodau i wella telerau ac amodau mewn meysydd fel cyflogau, yr hawl i allu gweithio’n hyblyg, ac iechyd a diogelwch.

Bydd yr NEU yn rhoi cyngor ac arweiniad i chi drwy gydol eich gyrfa

Mae modd i aelodau’r NEU fanteisio ar arbenigedd di-ben-draw, yn ymwneud â phopeth o’ch hawliau cyflogaeth i’ch cyfnod sefydlu. Yn ogystal â chefnogaeth cynrychiolydd eich gweithle a’ch cangen, bydd modd i chi gael cyngor ar-lein a defnyddio Llinell Gyngor yr NEU i gael help gyda materion cyflogaeth.

Rydyn ni’n gwybod bod cynifer o bethau i’w hystyried wrth i chi ddechrau arni yn y byd addysgu. Mae’n siŵr bod llawer o gwestiynau gennych chi i’w gofyn. Dyna pam ein bod wedicreu cyfres o ddeunyddiau a fydd yn eich helpu ar ddechrau eich gyrfa, gan gynnwys canllawiau am y cyfnod sefydlu, rheoli ymddygiad, a dod o hyd i’ch swydd gyntaf.

Mae’r NEU yn cynnig gostyngiadau arbennig a mwy

Mae cynllun NEU Rewards yn rhoi amrywiaeth o fanteision a gwasanaethau sy’n arbed arian i chi, gan gynnwys gostyngiadau mewn siopau, gostyngiadau ar aelodaeth campfeydd a thocynnau sinema, cyngor ariannol, a morgeisi sydd wedi’u creu’n arbennig ar gyfer athrawon newydd.

Mae aelodau’r NEU hefyd yn elwa o yswiriant rhad ac am ddim, sy’n berthnasol os cewch chi ddamwain bersonol yn y gwaith, neu os byddwch chi’n colli neu’n difrodi eiddo personol yn y gwaith, gan gynnwys cyfarpar addysgu ac eitemau personol.

Mae’r NEU yn cefnogi eich datblygiad gyda DPP o ansawdd gwych

Mae’r NEU wedi ymrwymo i’ch cefnogi ym mhob cam yn eich gyrfa.

Rydyn ni’n cynnig cyrsiau hyfforddi o ansawdd gwych mewn meysydd sy’n amrywio o reoli ymddygiad i ddiogelwch ar-lein. Mae’r undeb yn cynnal wythnosau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) i athrawon newydd gydol y flwyddyn, gydag agenda lawn dop o weminarau a chyrsiau sydd wedi’u teilwra i ateb anghenion athrawon newydd gymhwyso ac athrawon dan hyfforddiant.

Mae’r NEU yn undeb ymgyrchu sy’n llywio dyfodol addysg

Mae’r NEU yn falch o fod yn undeb sy’n ymgyrchu, ac mae ganddo weledigaeth glir ar gyfer dyfodol y system addysg. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n awyddus i lywio dyfodol addysg er budd athrawon, staff cymorth, a disgyblion.

A ninnau’n undeb sy’n ymgyrchu, mae’r NEU yn falch o wneud safiad am faterion pwysig fel llwyth gwaith, tlodi plant, trefniadau asesu a chyflogau.

Yr NEU yw’r undeb i chi, ac aelodau fel chi sy’n ei redeg

Aelodau’r NEU sy’n rhedeg yr undeb, a hynny ar ran yr aelodau. Drwy gymryd rhan yng ngweithgareddau eich undeb, fe allwch chi lywio polisi’r undeb, gwneud cyfraniad o bwys at ymgyrchoedd, a gweithio gyda chydweithwyr i ddatrys problemau yn eich gweithle chi. Mae dod yn gynrychiolydd yn un ffordd o gymryd rhan, ond nid dyna’r unig ffordd. Mae nifer o ffyrdd ffurfiol ac anffurfiol o gyfrannu, a chyfleoedd i gwrdd ag athrawon newydd eraill a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

3. A ydw i’n gymwys i ymuno?

Mae’r NEU yn undeb i bob gweithiwr addysg proffesiynol, gan gynnwys athrawon dan hyfforddiant ac athrawon newydd gymhwyso. Rydyn ni’n cynrychioli aelodau mewn ysgolion awdurdodau lleol, academïau ac ysgolion rhydd, ysgolion annibynnol, colegau chweched dosbarth ac addysg bellach, gwasanaethau cymorth addysg, lleoliadau darpariaeth addysg amgen, a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar.

I ganfod mwy am bwy all fod yn aelodau, ewch i Membership FAQ.

4. Faint fydd aelodaeth yn ei gostio imi?

Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n athro neu’n athrawes dan hyfforddiant, fe gewch chi ymuno â’r NEU yn rhad ac am ddim.

Dim ond £1 mae aelodaeth yn ei gostio i athrawon newydd gymhwyso (athrawon gyrfa gynnar yn Lloegr).

Yn yr ail flwyddyn ar ôl cymhwyso, byddwch chi’n talu traean yn unig o’r pris tanysgrifio arferol.

Ewch i Join the NEU i weld faint fydd bod yn aelod o’r NEU yn ei gostio.

5. Sut mae ymuno?

Hyd yn oed os ydych chi’n athro newydd gymhwyso a’ch bod wedi ymuno â’r NEU am ddim fel myfyriwr, bydd angen i chi dreulio munud yn diweddaru’ch aelodaeth, gan y bydd eich aelodaeth myfyriwr am ddim yn dod i ben ar ôl i chi gwblhau eich cwrs. Ond dim ond £1 y bydd diweddaru yn ei gostio i chi o hyd.

Mae ymuno’n broses gyflym a rhwydd, a hynny boed chi’n fyfyriwr newydd, yn aelod sy’n athro newydd gymhwyso, neu’n aelod sy’n fyfyriwr ar hyn o bryd ac eisiau diweddaru i aelodaeth athrawon newydd gymhwyso. Ewch i Join the NEU i ymaelodi heddiw.

Dewis arall yw ymuno drwy ffonio ein tîm aelodaeth ar 0345 811 8111.

Os oes gan yr NEU gynrychiolydd yn eich gweithle chi, bydd yn gallu’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am ymuno â’r undeb.

Mae rhagor o wybodaeth am drefniadau aelodaeth yr NEU ar gael yn Membership FAQ.

Back to top