Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor am y prif elfennau sy’n ymwneud ag ymddygiad wrth i chi feithrin profiad yn yr ystafell ddosbarth. Mae’n dangos sut gallwch chi baratoi i reoli ymddygiad da cyn mynd i mewn i’r ystafell ddosbarth; mae’n rhoi cyngor ynghylch sut i beidio â chynhyrfu; ac mae’n egluro ble gallwch chi gael cymorth os bydd angen hynny arnoch chi.
Wrth feddwl am reoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, dylech chi hefyd ystyried polisïau perthnasol eraill fel polisi gwrth-fwlio eich ysgol ynghyd â’ch hyfforddiant ym maes diogelu. Os bydd gennych chi unrhyw bryderon am newid yn ymddygiad disgybl neu os byddwch chi’n amau bod rhywun yn cael ei fwlio neu ei gam-drin, neu bod rhywun yn aflonyddu ar rywun arall, rhaid i chi roi gwybod am eich pryderon i arweinydd diogelu dynodedig eich ysgol.
Er bod modd i unrhyw weithiwr addysg proffesiynol ddefnyddio’r canllaw hwn, mae’n arbennig o berthnasol i athrawon newydd gymhwyso a’r rheini sy’n dechrau arni yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y dulliau a’r technegau y byddwch chi’n eu defnyddio i reoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth yn dibynnu ar amryw o bethau, ac yn enwedig ar bolisïau eich ysgol a’r cyfnod allweddol rydych chi’n ei addysgu. Mae’r mathau o ymddygiad heriol y bydd athrawon y blynyddoedd cynnar yn dod ar eu traws yn debygol o fod yn wahanol i’r heriau ymddygiad y bydd athro uwchradd neu athro ôl-16 yn eu hwynebu. Serch hynny, bydd rhywfaint o’r cyngor yn y canllaw hwn yn ddefnyddiol waeth pa grŵp oedran rydych chi’n ei addysgu.
Nodyn am yr eirfa
Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyfeirio at ANG (athrawon newydd gymhwyso), ADY (anghenion dysgu ychwanegol) a CADY (cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol). Termau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru yw’r rhain. Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ECTs (athrawon gyrfa gynnar) yn hytrach nag ANG yw’r enw am athrawon sydd newydd gymhwyso, a’r ffurfiau cyfatebol ar ADY a CADY yw AAAA (anghenion addysgol arbennig ac anabledd) a Chydlynwyr AAA. Mae’r holl ganllawiau yn y ddogfen hon yr un mor berthnasol i Loegr a Gogledd Iwerddon ag i Gymru.