Mae gwneud cais am eich swydd gyntaf fel athro neu athrawes yn gam pwysig yn eich gyrfa. Mae’n gyfnod cyffrous, ond efallai y byddwch chi hefyd yn teimlo braidd yn ansicr.
Dyna pam rydyn ni wedi creu’r llyfryn hwn. Mae’n rhoi cyngor am chwilio am swyddi, am wneud cais, ac am gyfweliadau. Ac mae’n trafod y pethau y mae angen i chi feddwl amdanyn nhw o ran cyflog a thelerau a mathau o swyddi. Mae hefyd yn dangos sut y gall yr Undeb Addysg Cenedlaethol eich cynghori a’ch cefnogi chi.