Cover image

Addysg, y gyfraith a chi

Mae athrawon yng Nghymru yn gweithio o fewn fframwaith cyfreithiol sy'n cynnwys hawliau a dyletswyddau. Mae'r nodiadau darlith hyn yn y Gymraeg a Saesneg yn darparu gwybodaeth am y fframwaith cyfreithiol ar gyfer athrawon sy'n dechrau eu gyrfaoedd.

Read this in English
Published:
Lawrlwytho

Mae athrawon yn gweithio o fewn fframwaith cyfreithiol sy’n cynnwys hawliau a dyletswyddau. Mae’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arwain wedi bod yn gymwys i athrawon yng Nghymru ers mis Medi 2017; mae’r Safonau Athrawon wedi bod yn gymwys i athrawon yn Lloegr ers mis Medi 2012. Mae disgwyl i athrawon gadw gwybodaeth gyfredol a dealltwriaeth o’r fframweithiau statudol hyn sy’n nodi eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau proffesiynol, a dylen nhw weithredu o fewn y fframweithiau hyn.

Mae’r nodiadau darlithio hyn yn rhoi gwybodaeth am y fframwaith cyfreithiol ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Eich cyswllt cyntaf i gael cyngor a chefnogaeth gan yr undeb yw eich cynrychiolydd yn y gweithle. Os nad oes cynrychiolydd yn eich gweithle ffoniwch 0345 811 8111 am gyngor a chymorth.

Mae Adran Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DfE) a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am addysg a gwasanaethau plant yng Nghymru a Lloegr. Yn y nodiadau darlithio hyn, pan gyfeirir at ganllawiau statudol ac anstatudol yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES) ac Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (DCSF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, cyfeirir at y sefyllfa gyfreithiol ac at bolisi cyfredol.

CYNNWYS

  • Dyletswydd gofal athrawon i ddisgyblion
  • Dyletswydd gofal athrawon a gweithgareddau y tu allani’r ysgol
  • Lechyd a diogelwch yn y gwaith
  • Cyswllt corfforol â disgyblion
  • Hawl athrawon i ddefnyddio grym rhesymol er mwyn rhwystro
  • Rôl y gwasanaeth addysg wrth amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin
  • Hawl athrawon i ddisgyblu
  • Cadw disgyblion i mewn am resymau disgyblaeth
  • Chwilio disgyblion
  • Amddiffyn rhag gwahaniaethu – disgyblion
  • Y cod ymarfer anghenion addysgol arbennig (AAA) yn Lloegr)
  • Amddiffyn rhag gwahaniaethu – athrawon
  • Cofnodion troseddol ac addasrwydd i weithio gyda phlant
  • Datgymhwyso rhag gofalu am blant
  • Cyngor cyfreithiol a phroffesiynol gan yr undeb


 

Back to top