NEU Cymru – llongyfarchiadau ar ganlyniadau cymwysterau

Read this in English
Published:

Wrth siarad am ganlyniadau cymwysterau heddiw, dywedodd Daniel Maney, Uwch Drefnydd Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru:

“Llongyfarchiadau i bob myfyriwr sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau Lefel 2 eraill heddiw. Mae eu penderfyniad, eu gwydnwch a'u gwaith caled, ochr yn ochr ag ymdrechion addysgwyr, rhieni a gofalwyr sy'n eu cefnogi, yn haeddu clod mawr. 

“Fodd bynnag, mae'r diwrnod hwn yn dod â risg anghymesur a phryder diangen i lawer o fyfyrwyr. Mae gormod o fyfyrwyr yn ceisio llwyddo er gwaethaf yr holl heriau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd oherwydd diffyg cyllid yn y system addysg yng Nghymru ac anallu i gael mynediad at y gefnogaeth anghenion dysgu ychwanegol sydd ei hangen arnynt.

"Er bod lefelau cofrestru ymgeiswyr eleni wedi'u heffeithio gan y symudiad parhaus tuag at gymwysterau ar gyfer Cymru a bod y canlyniadau ar draws y cwricwlwm cyfan yn gymharol sefydlog o'r llynedd, mae'n wirioneddol ddi-fudd cymharu canlyniadau o un flwyddyn i'r llall. Mae arholiadau ar ddiwedd cwrs ymhell o fod y ffordd orau a thecaf o asesu sgiliau myfyrwyr. Mae rhai cymwysterau a ddyfernir heddiw yn defnyddio cymysgedd o ddulliau asesu ond nid ydynt yn llai cadarn.

“Wrth i fis Medi agosáu a'r symudiad tuag at gymwysterau ar gyfer Cymru yn 2027 yn parhau, mae angen i ni sicrhau bod y cymwysterau newydd hyn yn defnyddio ystod o ddulliau asesu, sy’n dal yr hyn y gall pobl ifanc ei wneud. Dylid mesur sgiliau neu wybodaeth gael ei deilwra i anghenion y pwnc, nid aros gydag asesu trwy arholiad yn unig. Byddai dulliau asesu cymysg, ehangach yn helpu i feithrin sgiliau’n fwy effeithiol a rhoi cyfle i bob myfyriwr ddangos yr hyn y gallant ei wneud. Mae angen i ni hefyd sicrhau nad ydym yn cynyddu baich gwaith athrawon, ond yn ymddiried yn eu barn, heb ychwanegu gormod o fiwrocratiaeth ddiangen arnynt.

“I'r rhai sydd wedi sicrhau'r graddau oedd eu hangen arnynt i fynd ymlaen i Addysg Bellach, rydym yn eu llongyfarch ac yn dymuno'n dda iddynt. Mae hefyd yn bwysig cofio heddiw, i'r bobl ifanc hynny nad ydynt wedi cael y canlyniadau maen nhw eu hangen, nad dyma ddiwedd y ffordd. Gallant siarad â'u hysgol a'u coleg lleol am yr opsiynau sydd ar gael - mae yna lawer o gyrsiau ar gaell.”

Back to top