Mae NEU Cymru yn llongyfarch pob myfyriwr sy'n derbyn eu canlyniadau Lefel A, Lefel AS a chymwysterau Lefel 3 eraill heddiw

Read this in English
Published:

Wrth siarad am ganlyniadau cymwysterau heddiw, dywedodd Daniel Maney, Uwch Drefnydd Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru:

“Mae NEU Cymru yn llongyfarch pob myfyriwr sy'n derbyn eu canlyniadau Lefel A, Lefel AS a chymwysterau Lefel 3 eraill heddiw. Mae eu penderfyniad, eu gwydnwch a'u gwaith caled, ochr yn ochr ag ymdrechion addysgwyr, rhieni a gofalwyr sy'n eu cefnogi, yn haeddu clod mawr. 

“Fodd bynnag, mae'r diwrnod hwn yn dod â risg anghymesur a phryder diangen i lawer o fyfyrwyr. Mae gormod o fyfyrwyr yn ceisio llwyddo er gwaethaf yr holl heriau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd oherwydd diffyg cyllid yn y system addysg yng Nghymru ac anallu i gael mynediad at y gefnogaeth anghenion dysgu ychwanegol sydd ei hangen arnynt.

"Er bod canlyniadau eleni yn gymharol sefydlog o'u cymharu a rhai llynedd ac yn well na chyfartaledd y DU, mae'n gwbl ddi-fudd cymharu canlyniadau o un flwyddyn i'r llall. Mae arholiadau diwedd cwrs ymhell o fod y ffordd orau a thecaf o asesu sgiliau myfyrwyr. Mae rhai cymwysterau a ddyfernir heddiw yn defnyddio cymysgedd o ddulliau asesu ond nid ydynt yn llai cadarn.

“I'r rhai sydd wedi sicrhau'r graddau oedd eu hangen arnynt i fynd ymlaen i'r brifysgol, dymunwn yn dda iddynt. I'r rhai na chawsant y canlyniadau yr oeddent eu heisiau, mae'n bwysig gwybod nad heddiw yw gweddill eich bywyd, mae digon o opsiynau a dewisiadau ar gael.”

 

Back to top