Athrawon NEU Cymru yn galw am gamau brys o ran cyllid ysgolion a phwysau sy'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol

Read this in English
Published:

Mae NEU Cymru yn galw am system addysg decach, fwy tryloyw ac wedi'i hariannu'n briodol wrth i gynrychiolwyr yng Nghynhadledd Cymru 2026 y penwythnos hwn drafod effaith toriadau ysgolion a phwysau cynyddol ar ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae cynigion a basiwyd yn y gynhadledd yn tynnu sylw at y straen ar gyllidebau ysgolion, ac yn galw am ymgyrchu o'r newydd yn erbyn toriadau, mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a system decach ar gyfer dosbarthu cyllid i ysgolion a cholegau. Mae cynrychiolwyr hefyd yn codi pryderon ynghylch cymhlethdod cynyddol darpariaeth ADY, a'r baich gweinyddol trwm sydd ar gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CADY) a staff yn yr ystafell ddosbarth

O ran ADY, rhwng 2018/19 a 2024/25 cafwyd cynnydd o 164% yn nifer y dysgwyr sydd angen cymorth statudol; amlygir hefyd fod gwasanaethau seicoleg addysgol, lleferydd ac iaith, iechyd meddwl, a chymorth dysgu dan bwysau eithafol. Mae'r NEU yn galw am gyllid parhaus ar draws y sectorau addysg ac iechyd, gwell mynediad at arbenigwyr, a chasglu mwy o dystiolaeth ynghylch llwyth gwaith a chyfrifoldebau asesu. 

Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru’r Undeb Addysg Cenedlaethol: 

“Ni ellir disgwyl i ysgolion ddiwallu anghenion cynyddol gydag adnoddau annigonol. Mae pwysau ariannu yn cael eu teimlo mewn ystafelloedd dosbarth bob dydd, gan staff a chan y plant sy'n dibynnu arnynt.

“Rhaid cefnogi diwygio ADY gan y gefnogaeth arbenigol, y staffio a'r cyllid sydd eu hangen i wneud iddo weithio. Gofynnir i Gydlynwyr ADY ac athrawon reoli cyfrifoldebau cynyddol gymhleth, yn aml heb yr amser na'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. 

“Mae angen setliad ariannu hirdymor arnom sy'n deg, yn dryloyw ac yn ddigonol i roi'r gefnogaeth y mae pob plentyn yn ei haeddu.”

Back to top