Credwn rhaid i #AddysgDegIBawb fod yn gonglfaen Llywodraeth nesaf Cymru - gan sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad i addysg a fydd yn cefnogi eu lles ac yn eu helpu i ffynnu fel dinasyddion Cymru’r dyfodol.
Nodir yma ein gofynion allweddol sydd, yn ein barn ni, yn angenrheidiol i helpu i sicrhau y gall addysg gefnogi Cymru a’i phobl i ffynnu:
Gofyn: gwneud dysgu’n deg ac yn gyfiawn
- Ariannu ein system addysg yn llawn
- Ariannu’r Cwricwlwm a Diwygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol yn llawn, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer y proffesiwn
- Angen dod a phrofion / asesiadau Cenedlaethol i ben a chael “Sgwrs Genedlaethol” am system arholiadau teg
- Cefnogi lles meddyliol i bob plentyn a pherson ifanc
- Sicrhau gweledigaeth gydlynol i bawb yn ôl-16
Gofyn: lleihau cost mynd i’r ysgol a’r coleg
- Sicrhau fod gan bawb yn yr ysgol a’r coleg fynediad at yr offer TG a’r wi-fi y mae angen arnynt ar gyfer dysgu gartref
- Sicrhau fod prydau ysgol am ddim ar gael trwy’r gwyliau
- Sicrhau fod gan bawb ar Gredyd Cynhwysol fynediad at Brydau Ysgol Am Ddim
- Gwneud gwisg ysgol yn fforddiadwy } Darparu cefnogaeth ar gyfer costau ychwanegol cyrsiau a hyfforddiant
- Cynyddu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg i £45 yr wythnos
Gofyn: cefnogi’r gweithlu addys
- Darparu cefnogaeth iechyd meddwl i’r gweithlu cyfan, ynghyd â gostyngiad yn y baich gwaith a phwysau ar y system
- Cyflwyno bargeinio ar y cyd i benderfynu ar newidiadau i Gyflog ac Amodau Athrawon Ysgol
- Cynnwys athrawon cyflenwi o fewn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, a dod â’r loteri asiantaeth breifat i ben
- Sicrhau cyflog teg ar draws y gweithlu addysg, gan gynnwys cydraddoldeb cyflog i’r sector AHO
- Amddiffyn Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF)
Unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Mary van den Heuvel